Beth yw cydsyniad?
Mae rhoi cydsyniad yn golygu rhoi eich caniatâd i gymryd rhan mewn ymchwil. Bydd angen i chi wybod beth mae cydsyniad yn ei olygu a sut mae’n gweithio. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol.
Mae’r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon yn ymwneud â’r cyfreithiau ynghylch cydsyniad yng Nghymru a Lloegr. Efallai fod gwahaniaethau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae’n bwysig cofio’r canlynol:
- bydd pob person sy’n ymwneud ag unrhyw ymchwil yn cael ei drin â pharch
- pan rydych yn cymryd rhan, nid yw’r ymchwil yn cael ei gwneud i chi, ond gyda chi
- mae pobl sydd wedi cymryd rhan mewn ymchwil yn aml yn dweud eu bod wedi teimlo eu bod yn cael gofal da a bod ganddynt gyswllt ymroddedig o fewn tîm y staff ymchwil i’w helpu i deimlo’n rhan o’r gwaith ac yn wybodus
Bydd rhai astudiaethau’n gofyn i chi gydsynio’n ysgrifenedig, ac eraill ar lafar. Os byddwch yn penderfynu rhoi eich cydsyniad, bydd eich taith ymchwil yn dechrau. Gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl atebion sydd eu hangen arnoch i deimlo’n gyfforddus. Os ydych yn anghyfforddus gydag unrhyw agwedd, siaradwch â’r tîm ymchwil.
Rydym yn deall nad yw pawb yn teimlo’n gyfforddus yn cymryd rhan, a dylech wybod bod hyn yn iawn - mae gennych hawl i beidio â chydsynio. Mae yna lawer o ffyrdd eraill o gefnogi ymchwil heb gymryd rhan mewn astudiaeth.
Diogelwch ac amddiffyniad
Os nad ydych yn gallu rhoi cydsyniad eich hun, mae trefniadau cyfreithiol er mwyn helpu i benderfynu pwy sy’n rhan o benderfyniadau cydsynio ar eich rhan. Mae ymchwil sy’n gwerthuso diogelwch neu effeithiolrwydd cyffur, neu’n casglu gwybodaeth arall amdano, yn cael ei galw’n Dreial Clinigol sy’n ymwneud â Chynnyrch Meddyginiaethol. Gelwir yr holl ymchwil arall yn Dreialon Clinigol nad ydynt yn ymwneud â Chynnyrch Meddyginiaethol. Gallwch ddarllen rhagor am hyn isod.
Y tair rheol cydsyniad
Rheol 1: Rhaid i chi gael yr holl wybodaeth
Dylech gael taflen wybodaeth i gle
ifion. Bydd y daflen hon yn dweud popeth wrthych am yr astudiaeth ymchwil, beth fydd yn ei olygu a’r risgiau a’r manteision. Dylai fod wedi’i hysgrifennu mewn Cymraeg clir, a chewch gyfle hefyd i ofyn unrhyw gwestiynau am yr astudiaeth ymchwil.Rheol 2: Rhaid bod gennych y galluedd i gydsynio
Mae ‘galluedd’ yn golygu bod gennych y gallu, y wybodaeth neu’r sgiliau angenrheidiol i wneud rhywbeth yn llwyddiannus. Mae’r gyfraith yn tybio bod gan oedolyn alluedd, oni bai ei fod wedi’i bennu fel arall.
I roi cydsyniad, mae angen i chi allu deall, cofio, a phwyso a mesur y wybodaeth a roddir i chi. Yna mae angen i chi allu cyfleu eich penderfyniad i’r tîm ymchwil. Rhaid parchu’r penderfyniad a wnewch. Byddwch yn cael cymorth ar bob cam yn ôl yr angen.
Mae’r gyfraith yn nodi sut y gall y tîm ymchwil benderfynu a oes gennych y galluedd i gydsynio i astudiaeth, os oes ganddo bryderon am hyn. Mae asesiad galluedd dau gam i helpu’r tîm i benderfynu a oes gennych y galluedd i gydsynio.
Rheol 3: Rhaid i chi roi cydsyniad yn wirfoddol
Mae hyn yn golygu eich bod yn dewis rhoi eich cydsyniad heb deimlo dan unrhyw bwysau gan neb arall - boed yn deulu, ffrindiau, eich meddyg, neu nyrs.
Cydsyniad ar gyfer ymchwil mewn uned gofal dwys ysbyty
Os cewch eich derbyn i’r uned gofal critigol mewn cyflwr dryslyd neu’n anymwybodol, efallai na fyddwch yn gallu ystyried y wybodaeth yn iawn na rhoi cydsyniad, hyd yn oed gyda chymorth. Mae’r animeiddiad hwn yn sôn am yr hyn fydd yn digwydd a sut y gellir cael cydsyniad yn yr ysbyty.
Darllenwch drawsgrifiad y fideo 'Ymchwil yn yr Uned Gofal Dwys’.
Ar gyfer astudiaethau ymchwil sy’n dreialon clinigol sy’n ymwneud â meddyginiaethau/cyffuriau
Os ydych yn rhy sâl i gydsynio i dreial clinigol sy’n ymwneud â meddyginiaeth/cyffur, efallai y gofynnir i gynrychiolydd cyfreithiol roi cysyniad ar eich rhan.
Beth yw cynrychiolydd cyfreithiol?
Cynrychiolydd cyfreithiol yw rhywun a all gydsynio ar eich rhan. Mae dau fath o gynrychiolwyr cyfreithiol.
Cynrychiolydd cyfreithiol personol
Rhaid bod ganddo berthynas bersonol agos â’r cyfranogwr a rhaid iddo fodloni’r diffiniad o gynrychiolydd cyfreithiol. Yn hytrach na chyngor, mae’r cynrychiolydd cyfreithiol personol yn rhoi cydsyniad ar sail gwybodaeth ar ran y cyfranogwr. Mae hyn yn cynrychioli ei ewyllys dybiedig yn gyfreithiol.
Cynrychiolydd cyfreithiol proffesiynol
Os na ellir dod o hyd i gynrychiolydd cyfreithiol personol, yna dylid ymgynghori â
chynrychiolydd cyfreithiol proffesiynol, er enghraifft y meddyg sy’n gyfrifol am ofal y person neu berson a enwebwyd gan y darparwr gofal iechyd (e.e. meddyg teulu neu ymgynghorydd meddygol). Fodd bynnag, ni ddylai fod yn gysylltiedig â’r ymchwil sy’n cael ei chynnal.
Rhaid i ymchwilwyr drafod yr holl wybodaeth gyda’ch cynrychiolydd cyfreithiol, personol neu broffesiynol, a chael ei gydsyniad ysgrifenedig. Pan fyddwch yn gwella, bydd y tîm ymchwil yn gofyn a ydych eisiau cydsynio unwaith eto i wneud yn siŵr eich bod yn hapus i gymryd rhan o hyd. Mae’n iawn tynnu’n ôl ar y cam hwn os ydych eisiau gwneud hynny.
Ar gyfer astudiaethau ymchwil nad ydynt yn ymwneud â meddyginiaethau/cyffuriau
Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yng Nghymru a Lloegr yn caniatáu i ymchwil fynd rhagddi heb y cydsyniad arferol os nad oes unrhyw feddyginiaethau na chyffuriau’n cael eu profi, ar yr amod bod yr astudiaeth yn gysylltiedig â’r cyflwr sy’n effeithio ar y person hwnnw neu’r driniaeth sy’n cael ei rhoi.
Dim ond os yw Pwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG wedi cymeradwyo hyn ymlaen llaw y mae hyn yn berthnasol. Sefydlwyd Pwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG er mwyn galluogi a chefnogi ymchwil foesegol yn y GIG ac mae’n amddiffyn hawliau, diogelwch, urddas a llesiant y rhai sy’n cymryd rhan mewn ymchwil.
Disgwylir o hyd i’r tîm ymchwil wneud y canlynol:
- Ceisio dod o hyd i ymgynghorai personol (ffrind/teulu) - rhaid i’r ymchwilydd geisio cyngor gan yr unigolyn hwn ynghylch beth fyddai teimladau’r claf ac a ddylai gymryd rhan. Efallai y bydd nifer o bobl yn gallu gweithredu fel ymgynghorai personol, ond dylai fod yn rhywun y byddai’r claf (sydd heb alluedd) yn ymddiried ynddo i wneud penderfyniadau pwysig am ei les. Gallai’r rhain gynnwys: perthynas agos neu ffrind, gofalwr (di-dâl), neu unigolyn sydd ag Atwrneiaeth Arhosol.
- Os nad oes neb yn gallu gweithredu fel ymgynghorai personol, byddai angen i’r tîm ymchwil ddod o hyd i ymgynghorai enwebedig. Gallai hwn fod yn feddyg teulu neu’n ofalwr cyflogedig, ond ni ddylai fod yn gysylltiedig â’r ymchwil sy’n cael ei chynnal. Dylid sicrhau bod yr ymgynghorai enwebedig yn cael y wybodaeth ddiweddaraf drwy gydol yr astudiaeth.
Cwestiynau Cyffredin
A fydd fy ngofal yn newid o ganlyniad i wirfoddoli i gymryd rhan mewn ymchwil?
Gofalu amdanoch chi yw blaenoriaeth unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Eich iechyd chi sy’n dod yn gyntaf. Os byddwch yn penderfynu cymryd rhan mewn ymchwil, byddwch yn dal i gael y safon gofal, ond os yw’r ymchwil yn cynnwys profi triniaeth newydd, efallai y byddwch yn cael triniaeth ychwanegol ar ben y safon gofal hon.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn cael problemau yn darllen neu’n deall y wybodaeth?
Bydd y tîm ymchwil yn gwneud yr addasiadau angenrheidiol yn ôl eich anghenion hygyrchedd, fel darparu gwybodaeth mewn fformatau amgen (e.e. fideo neu luniau).
Beth fydd yn digwydd os na allaf lofnodi fy enw?
Gallwch roi cydsyniad mewn ffordd arall (e.e. ar lafar) o flaen tyst nad yw’n gysylltiedig â’r ymchwil sy’n cael ei chynnal. Gofynnir i’r tyst gadarnhau yn ysgrifenedig ei fod wedi tystio i’ch cydsyniad.
Sut mae fy nghydsyniad yn cael ei storio?
Gan amlaf, bydd y tîm ymchwil yn cadw’r cydsyniad gwreiddiol gyda dogfennaeth yr astudiaeth ymchwil. Bydd copi yn cael ei ffeilio gyda’ch cofnodion meddygol hefyd. Rhoddir copi i chi ei gadw hefyd.
Have a conversation with family and friends
Os ydych yn gwybod eich bod am helpu ymchwil drwy gydsynio i gymryd rhan - siaradwch â’ch anwyliaid neu ffrind agos - a soniwch wrthynt am eich dymuniadau. Drwy gael y sgwrs yn gynnar, mae’n golygu, os bydd unrhyw beth yn digwydd, y byddant yn gallu cyflawni eich dymuniadau a theimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny.
Interested in finding out more?
What to expect on a study
Health and care research comes in various forms, depending on the study’s goals. Get an idea of what you can expect before, during and after taking part in research.
Find a study
Want to help shape the future of health and care? Find out how you can use our website to find a suitable study.