Gwneud cwyn
Rydym am sicrhau bod pawb yn cael y profiad gorau posibl o ddefnyddio Be Part of Research. Rydym yn cymryd cwynion am ein gwaith, staff a lefelau gwasanaeth o ddifrif.
Os hoffech chi wneud cwyn, dilynwch y broses isod. Byddwn ni’n gweithio i ddatrys eich cwyn mor gyflym ac effeithiol â phosibl, ac yn dysgu ohoni er mwyn gwella ansawdd ein gwasanaeth.
Gall unrhyw un sy’n defnyddio’r wefan hon wneud cwyn. Byddwn ni’n eich helpu i symud unrhyw gŵyn yn ei blaen, ond ni allwn ddatrys:
- Cwynion am astudiaeth ymchwil neu staff tîm yr astudiaeth sy'n rhan o'r astudiaeth.
- Cwynion am eich gofal clinigol gan eich darparwr gofal iechyd.
Os oes gennych chi gŵyn sy'n ymwneud yn gyfan gwbl â’r ffordd y mae gwefan Be Part of Research yn cael ei darparu neu ei gweithredu, dylech chi ysgrifennu i bepartofresearch@nihr.ac.uk neu lenwi’r ffurflen ar y dudalen 'Help gyda'r wefan hon'.
Pan fyddwch chi wedi gwneud cwyn, byddwn yn:
- Anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi ein bod ni wedi derbyn eich cwyn (os ydych chi wedi darparu cyfeiriad e-bost).
- Ymchwilio i'ch cwyn yn drylwyr, yn deg ac yn gyflym, gan weithio i ganlyniad y cytunwyd arno.
- Ymdrin â'ch cwyn mewn modd systematig, sympathetig a chymesur.
- Ceisio datrys eich cwyn mor llawn â phosibl.
- Bydd pob cwyn yn cael ei thrin â lefel briodol o gyfrinachedd, a dim ond gwybodaeth sydd ei hangen ar gyfer yr ymchwiliad a gaiff ei rhannu â staff.
Er ein bod yn anelu at ateb popeth a dderbyniwn, ni allwn ddarparu ymateb os yw eich gohebiaeth:
- Yn gofyn cwestiynau am bynciau y tu allan i gylch gwaith neu gyfrifoldeb Be Part of Research.
- Yn cynnwys iaith sarhaus.
- Yn aneglur neu’n annarllenadwy.
- Yn gwerthu neu’n hyrwyddo cynnyrch.