Cymryd Rhan

Rhagfyr 2021

Cyflwyniad

Janice Bailie - July 2019Rwy’n falch iawn o gyflwyno rhifyn mis Rhagfyr o gylchlythyr Cymryd Rhan, a thynnu sylw at y gwaith ymchwil pwysig sy’n cael ei wneud ledled y DU i barhau i fynd i’r afael ag effaith COVID-19 gan hefyd ddal ati i geisio dod o hyd i driniaethau a therapïau newydd ar gyfer cyflyrau eraill.

Ymhlith enghreifftiau o’r rhain y mae’r treial PANORAMIC, sy’n cael ei arwain o Brifysgol Rhydychen ar safleoedd ledled y DU, a fydd yn profi triniaethau gwrthfeirysol newydd ar gyfer COVID-19 i helpu cleifion i aros gartref heb fod angen iddynt gael eu derbyn i’r ysbyty. Mae SIMPLIFY, treial newydd sy’n cael ei gynnal gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) yn Lloegr ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, yn edrych ar brawf gwaed aml-ganser o’r enw Galleri. Mae gan y ddau y potensial i newid bywydau.

Mae erthygl ar anghydraddoldebau iechyd yn ein hatgoffa o’r angen i sicrhau bod pobl o bob cefndir yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, yn enwedig grwpiau a allai fod yn fwy amharod i gymryd rhan yn ddiwylliannol.

Mae Diwrnod AIDS y Byd yn atgyfnerthu’r angen hwn a’r canlyniadau y gall hyn eu cael i boblogaeth sydd eisoes wedi bod trwy ei phandemig ei hun.

Mae pob treial neu astudiaeth ymchwil angen cyfranogiad gan bobl fel chi i ateb cwestiynau ymchwil newydd a gwella iechyd cleifion y dyfodol a’r cyhoedd. Os ydych yn dal i geisio penderfynu a ydych am gymryd rhan mewn astudiaeth ai peidio, byddem yn eich annog i wylio’r fideo am wefan Bod yn Rhan o Ymchwil a darllen y straeon ymchwil o bob cwr o’r DU o ddarganfod yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal chi.

Edrychaf ymlaen at barhau ein taith yn 2022.

Dr Janice Bailie

Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Is-adran Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon.

Cymerwch ran

Lansio astudiaeth gwrthfeirysol COVID-19 ledled y DU gyfan

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Rhydychen – mewn partneriaeth â’r NIHR – yn ceisio dod o hyd i driniaethau COVID-19 diogel ac effeithiol i helpu pobl i wella gartref ac mae cyfle i chi helpu trwy ymuno ag astudiaeth flaenoriaeth genedlaethol o’r enw PANORAMIC.

Nod y treial yw dod o hyd i driniaethau gwrthfeirysol sy’n lleihau’r niferoedd sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty ac yn cyflymu gwellhad pobl â COVID-19, sydd gartref ac yng nghyfnod cynnar yr haint. Molnupiravir (Lagevrio yw enw’r brand) fydd y driniaeth wrthfeirysol gyntaf i gael ei hymchwilio drwy’r treial.

I gymryd rhan, bydd angen i chi fod wedi cael prawf COVID-19 positif a bod yn dioddef symptomau COVID-19 a ddechreuodd yn ystod y pum diwrnod diwethaf. Mae angen hefyd i chi fod yn 50 oed neu’n hŷn, neu’n 18 oed neu’n hŷn a chyflwr iechyd isorweddol, fel asthma.

Gall cyfranogwyr cymwys ymuno ar-lein neu dros y ffôn o gysur eu cartrefi eu hunain. Byddwn yn anfon yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch trwy negesydd yn syth i’ch cartref. Byddwch hefyd yn derbyn dyddiadur symptomau ac efallai y byddwch yn derbyn triniaeth i’w chymryd. 

Dysgwch fwy drwy fynd i Be Part of Research.

COVID-19 cell

Astudiaeth prawf gwaed canfod cynnar aml-ganser yn cychwyn

Mae’r NIHR ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cefnogi astudiaeth newydd o’r enw SYMPLIFY a fydd yn ymchwilio i brawf canfod cynnar aml-ganser newydd o’r enw Galleri. 

Mae hwn ar gyfer pobl sydd â symptomau amhenodol a allai fod o ganlyniad i ganser.

Prawf gwaed yw Galleri sy’n gallu canfod dros 50 o wahanol fathau o ganser â chyfradd canlyniadau negyddol anghywir o lai nag 1 y cant. 

I ddysgu mwy ac i weld a ydych yn gymwys i gymryd rhan, ewch i wefan yr astudiaeth.

Astudiaeth iechyd meddwl yn cychwyn yn yr Alban

Mae prosiect ymchwil arloesol i ddeall yn well sut mae pobl sy’n byw gyda salwch meddwl difrifol, cymhleth a/neu barhaus yn dioddef stigma a gwahaniaethu wedi cychwyn yn yr Alban. 

Darllenwch

Niferoedd uchel o gyfranogwyr ymchwil yn credu bod ymchwilwyr yn gwerthfawrogi eu cyfraniad

Bob blwyddyn mae NIHR yn holi cyfranogwyr ymchwil am eu profiadau o gymryd rhan, i weld yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda ac i ddarganfod y meysydd lle gallwn wella. 

Mae canlyniadau o Arolwg Profiad Cyfranogwyr mewn Ymchwil Clinigol (PRES) NIHR yn 2020/21 yn dangos bod 93% o gyfranogwyr yn Lloegr yn teimlo bod yr ymchwilwyr a thimau astudiaethau yn gwerthfawrogi’r cyfraniad yr oeddent yn ei wneud at ymchwil trwy gymryd rhan.

Roedd 96% yn teimlo eu bod yn derbyn gwybodaeth ddigonol a byddai 94% yn mynd ymlaen i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil eto. Darllenwch y canfyddiadau.

Beth sydd nesaf i sut mae NIHR yn gweithio gyda chleifion a’r cyhoedd? 

Mae gweithio gyda chleifion a’r cyhoedd i lunio a gwneud gwaith ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn bwysig i NIHR. Yn y blog hwn, mae Jeremy Taylor, Cyfarwyddwr Llais y Cyhoedd NIHR, yn amlygu sut mae NIHR yn bwriadu gwella eu gwaith gyda chleifion a’r cyhoedd yn Lloegr ar draws pum maes. Daw’r canlyniadau o gyfres o weithdai gyda’r gymuned ymchwil a chyfranogwyr cyhoeddus.

Sut brofiad yw cynghori ar astudiaeth gordewdra yn ystod plentyndod?

Wrth chwilio am gyfranogwyr cyhoeddus ar gyfer astudiaeth gordewdra yn ystod plentyndod, awgrymodd Mike Bell y dylai Elizabeth (15 oed) a Maddie (16 oed) ymuno – yn hytrach na mwy o oedolion. Yn y blog hwn, darganfyddwch safbwyntiau Elizabeth a Maddie ar fod yn rhan o astudiaeth ryngwladol.

Older couple looking at a paper with a healthcare professional

Archwilio anghydraddoldebau iechyd

Yn ein blog, rydym yn siarad â’r Athro Clare Bambra o Ysgol Ymchwil Iechyd Cyhoeddus NIHR i ddarganfod pam mae disgwyliad oes yn wahanol mewn gwahanol rannau o Loegr ar draws y DU, ac i edrych ar yr hyn sy’n digwydd i helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Darllenwch yr erthygl 

Yng Nghymru, mae DECIPHer yn gwneud gwaith ymchwil gwella iechyd i wella iechyd y boblogaeth ac i leihau anghydraddoldebau iechyd. Yng Ngogledd Iwerddon, nod Rhwydwaith Treialon Ymyrraeth Gofal Iechyd Trawsffiniol yn Iwerddon (CHITIN)  yw mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn yr ardaloedd ar y ffin rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon trwy 11 o dreialon Ymyrraeth Gofal Iechyd trawsffiniol. Iechyd Cyhoeddus yr Alban yw asiantaeth genedlaethol flaenllaw yr Alban ar gyfer gwella ac amddiffyn iechyd a llesiant holl bobl yr Alban, gan gynnwys pwyslais ar leihau anghydraddoldebau iechyd.

Diwrnod AIDS y Byd

I nodi Diwrnod AIDS y Byd ar 1 Rhagfyr, mae ein blog diweddaraf yn ystyried sut mae gwaith ymchwil wedi newid y sefyllfa o ran HIV ac AIDS. Mae hefyd yn tynnu sylw at rywfaint o’r gwaith ymchwil presennol a ariennir ac a ddarperir gan yr NIHR yn Lloegr.

Ymchwil archwilio poen cefn

Mae un o bob chwe oedolyn yn y DU yn dioddef rhyw fath o boen cefn ond gall fod yn anodd gwneud diagnosis o’r achos, ac mewn llawer o achosion bydd yn gwella ar ei ben ei hun heb fod angen unrhyw ymyrraeth feddygol. Mae’r blog hwn yn esbonio’r mathau o waith ymchwil i boen cefn sy’n digwydd a sut y gallwch gymryd rhan.

Therapïau siarad, Ffisiotherapi,  Therapïau ymarfer corff, Rhaglenni hunan-reoli, Ymchwilio i ffactorau genetig

Gwyliwch

FIDEO: Cychwyn arni ar Bod yn Rhan o Ymchwil

Os nad ydych wedi defnyddio’r wefan Bod yn Rhan o Ymchwil o’r blaen, neu eich bod yn awyddus i ddarganfod mwy am sut y mae’n gweithio, dylai’r fideo esboniadol hwn eich helpu i ddarganfod eich ffordd o gwmpas.

Gwrandewch

Podlediad – Sgyrsiau am Ymchwil Diabetes

Yn y gyfres newydd hon o bodlediadau, byddwch yn darganfod sut mae astudiaethau diabetes yn cael eu dylunio, sut mae gwirfoddolwyr yn cael eu diogelu a sut brofiad yw cymryd rhan. Darganfyddwch y sefyllfa bresennol o ran ymchwil diabetes, yr hyn sy’n debygol o ddigwydd yn y dyfodol a sut i gymryd rhan. Cynhyrchir y gyfres gan Rwydwaith Clinigol Lleol NIHR yng Ngogledd-orllewin Llundain.

Newyddion ymchwil

Erthygl: Cleifion arennau risg uchel Cymru yn rhan o astudiaeth COVID chwistrell trwynol newydd

Erthygl: Ymarfer corff yn lleihau anabledd a phoen ysgwydd ar ôl llawdriniaeth canser y fron.

Erthygl: Treial clinigol dan arweiniad Prifysgol Queen’s Belfast yn cynnig dull newydd i bobl â chlefyd llygaid sy’n cynyddu capasiti’r GIG

Erthygl:  Mae ymchwilwyr o Brifysgol Glasgow wedi datgelu gwybodaeth bwysig am sut mae celloedd canser yn dod yn ymwrthiannol i rai triniaethau.

Y newyddion diweddaraf