Cyflwyniad
Rwy’n falch iawn o gyflwyno’r rhifyn hwn o’r cylchlythyr, a thynnu sylw at gymaint o straeon i ysbrydoli am gyfranogiad a chymryd rhan o bob cwr o’r DU. Eleni, mae’r gymuned ymchwil wedi parhau ei hymdrechion i fynd i’r afael ag effaith COVID-19.
Dyma enghreifftiau o ddwy astudiaeth o’r fath: Treial PANORAMIC, sy’n cael ei arwain o Brifysgol Rhydychen ar safleoedd ledled y DU, a fydd yn profi triniaethau gwrthfeirysol newydd ar gyfer COVID-19 i helpu cleifion i aros gartref heb fod angen iddynt gael eu derbyn i’r ysbyty. Ac mae SIMPLIFY yn dreial newydd sy’n cael ei gynnal gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) yn Lloegr ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, yn edrych ar brawf gwaed aml-ganser o’r enw Galleri. Mae gan y ddau y potensial i newid bywydau.
Mae erthygl ar anghydraddoldebau iechyd yn ein hatgoffa o’r angen i sicrhau bod pobl o bob cefndir yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil.
Mae Mike Bell hefyd yn tynnu sylw at thema cyfleoedd cynhwysol trwy bwysleisio pwysigrwydd cynnwys pobl ifanc mewn gwaith ymchwil i ordewdra yn ogystal ag oedolion mewn blog gydag Elizabeth (15 oed) a Maddie (16 oed) am eu profiad o gymryd rhan mewn astudiaeth ryngwladol.
Canfu arolwg NIHR eleni bod 93% o ymatebwyr a gymerodd ran mewn gwaith ymchwil yn teimlo bod ymchwilwyr yn eu gwerthfawrogi a hoffem annog pobl eraill i ymateb i’r her.
Mewn blog arall, mae Jeremy Taylor, Cyfarwyddwr Llais y Cyhoedd NIHR, yn ein hysbysu am 5 ffordd y bydd gweithio gyda’r cyhoedd yn cael ei wella dros y misoedd nesaf yn NIHR.
Ceir digonedd o enghreifftiau o gymryd rhan a chyfranogiad o bob cwr o’r DU felly parhewch i ddarllen.
Edrychaf ymlaen at barhau ein taith yn 2022.
Dr Janice Bailie
Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Is-adran Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon
Cymerwch ran
Lansio astudiaeth gwrthfeirysol COVID-19 ledled y DU gyfan
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Rhydychen – mewn partneriaeth â’r NIHR – yn ceisio dod o hyd i driniaethau COVID-19 diogel ac effeithiol i helpu pobl i wella gartref ac mae cyfle i chi helpu trwy ymuno ag astudiaeth flaenoriaeth genedlaethol o’r enw PANORAMIC.
Nod y treial yw dod o hyd i driniaethau gwrthfeirysol sy’n lleihau’r niferoedd sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty ac yn cyflymu gwellhad pobl â COVID-19, sydd gartref ac yng nghyfnod cynnar yr haint. Molnupiravir (Lagevrio yw enw’r brand) fydd y driniaeth wrthfeirysol gyntaf i gael ei hymchwilio drwy’r treial.
Sut i gymryd rhan
I gymryd rhan, bydd angen i chi fod wedi cael prawf COVID-19 positif a bod yn dioddef symptomau COVID-19 a ddechreuodd yn ystod y pum diwrnod diwethaf. Mae angen hefyd i chi fod yn 50 oed neu’n hŷn, neu’n 18 oed neu’n hŷn a chyflwr iechyd isorweddol, fel asthma.
Gall cyfranogwyr cymwys ymuno ar-lein neu dros y ffôn o gysur eu cartrefi eu hunain. Byddwn yn anfon yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch trwy negesydd yn syth i’ch cartref. Byddwch hefyd yn derbyn dyddiadur symptomau ac efallai y byddwch yn derbyn triniaeth i’w chymryd.
Dysgwch fwy drwy fynd i Be Part of Research.
Astudiaeth prawf gwaed canfod cynnar aml-ganser yn cychwyn
Mae’r NIHR ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cefnogi astudiaeth newydd o’r enw SYMPLIFY a fydd yn ymchwilio i brawf canfod cynnar aml-ganser newydd o’r enw Galleri, ar gyfer cleifion â symptomau amhenodol a allai fod yn ganlyniad o ganser. Prawf gwaed yw Galleri sy’n gallu canfod dros 50 o wahanol fathau o ganser â chyfradd canlyniadau negyddol anghywir o lai nag 1 y cant. Os hoffech ddarganfod mwy a gweld a ydych yn gymwys i gymryd rhan, ewch i’r dudalen astudiaeth ar Bod yn Rhan o Ymchwil.
I ddysgu mwy ac i weld a ydych yn gymwys i gymryd rhan, ewch i wefan yr astudiaeth.
Astudiaeth iechyd meddwl yn cychwyn yn yr Alban
Mae prosiect ymchwil arloesol i ddeall yn well sut mae pobl sy’n byw gyda salwch meddwl difrifol, cymhleth a/neu barhaus yn dioddef stigma a gwahaniaethu wedi cychwyn yn yr Alban.
Darllenwch
Niferoedd uchel o gyfranogwyr ymchwil yn credu bod ymchwilwyr yn gwerthfawrogi eu cyfraniad
Bob blwyddyn mae NIHR yn holi cyfranogwyr ymchwil am eu profiadau o gymryd rhan, i weld yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda ac i ddarganfod y meysydd lle gallwn wella. Mae canlyniadau o Arolwg Profiad Cyfranogwyr mewn Ymchwil Clinigol (PRES) NIHR yn 2020/21 yn dangos bod 93% o gyfranogwyr yn Lloegr yn teimlo bod yr ymchwilwyr a thimau astudiaethau yn gwerthfawrogi’r cyfraniad yr oeddent yn ei wneud at ymchwil trwy gymryd rhan.
Roedd 96% yn teimlo eu bod yn derbyn gwybodaeth ddigonol a byddai 94% yn mynd ymlaen i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil eto. Darllenwch y canfyddiadau.
Diwrnod AIDS y Byd
I nodi Diwrnod AIDS y Byd ar 1 Rhagfyr, mae’r blog diweddaraf hwn yn ystyried yr hyn a gyflawnwyd hyd yma ac yn tynnu sylw at rywfaint o’r gwaith ymchwil presennol a ariennir ac a ddarperir gan yr NIHR yn Lloegr.
Ymchwil poen cefn
Mae un o bob chwe oedolyn yn y DU yn dioddef rhyw fath o boen cefn ond gall fod yn anodd gwneud diagnosis o’r achos, ac mewn llawer o achosion bydd yn gwella ar ei ben ei hun heb fod angen unrhyw ymyrraeth feddygol. Darllenwch am y mathau o waith ymchwil i boen cefn sy’n digwydd a sut y gallwch gymryd rhan.
Archwilio anghydraddoldebau iechyd
Yn ein blog, rydym yn siarad â’r Athro Clare Bambra o Ysgol Ymchwil Iechyd Cyhoeddus NIHR i ddarganfod pam mae disgwyliad oes yn wahanol mewn gwahanol rannau o Loegr ar draws y DU, ac i edrych ar yr hyn sy’n digwydd i helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Yng Nghymru, mae DECIPHer yn gwneud gwaith ymchwil gwella iechyd i wella iechyd y boblogaeth ac i leihau anghydraddoldebau iechyd. Yng Ngogledd Iwerddon, nod Rhwydwaith Treialon Ymyrraeth Gofal Iechyd Trawsffiniol yn Iwerddon (CHITIN) yw mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn yr ardaloedd ar y ffin rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon trwy 11 o dreialon Ymyrraeth Gofal Iechyd trawsffiniol. Iechyd Cyhoeddus yr Alban yw asiantaeth genedlaethol flaenllaw yr Alban ar gyfer gwella ac amddiffyn iechyd a llesiant holl bobl yr Alban, gan gynnwys pwyslais ar leihau anghydraddoldebau iechyd.
Rhagor o fynediad at ganfyddiadau ymchwil i aelodau’r cyhoedd
Ar ôl ymgysylltu helaeth a rhanddeiliaid, gan gynnwys y cyhoedd, mae’r NIHR wedi cyhoeddi polisi Mynediad Agored newydd. Bydd y polisi hwn yn cynyddu nifer yr erthyglau ymchwil NHIR sy’n cael eu cyhoeddi a mynediad agored ac yn ehangu’r ffyrdd y gall ymchwilwyr wneud eu herthyglau ymchwil ar gael yn fwy eang. Darllenwch fwy
Camau nesaf NIHR ar gyfer gweithio gyda chleifion a’r cyhoedd
Mae NIHR wedi arwain y ffordd ers amser maith o ran gweithio mewn partneriaeth gyda chleifion a’r cyhoedd i wneud gwaith ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Yn y blog hwn, mae Jeremy Taylor, Cyfarwyddwr Llais y Cyhoedd NIHR, yn amlygu sut yr ydym yn bwriadu gwella ein gwaith yn y maes hwn yn dilyn cyfres o weithdai gyda’r gymuned ymchwil a chyfranwyr cyhoeddus.
Gwyliwch
Cychwyn arni ar Bod yn Rhan o Ymchwil
Os nad ydych wedi defnyddio’r wefan Bod yn Rhan o Ymchwil o’r blaen, neu eich bod yn awyddus i ddarganfod mwy am sut y mae’n gweithio, dylai’r fideo esboniadol egluro rhai o fanteision a nodweddion y gwasanaeth.
Newyddion ymchwil
Y newyddion diweddaraf
- Dewch o hyd i’r canfyddiadau ymchwil diweddaraf mewn iaith blaen drwy fynd i’r dudalen hysbysiadau ar Dystiolaeth NIHR
- Darganfyddwch y cyfleoedd diweddaraf i gymryd rhan gyda’r NIHR ac arianwyr neu sefydliadau ymchwil eraill ledled y DU ar People in Research
- Os hoffech helpu i lunio gwaith ymchwil yng Ngogledd Iwerddon, ’cymerwch olwg ar ymuno ân grŵp o gynrychiolwyr cyhoeddus sy’n cefnogi gweithgareddau’r Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus