Bod yn rhan o ymchwil iechyd a gofal sy’n newid bywydau

Mae Be Part of Research yn wasanaeth am ddim sy’n ei gwneud hi’n hawdd dod o hyd i ymchwil iechyd a gofal hanfodol ledled y DU a chymryd rhan ynddi.

Cofrestrwch eich manylion er mwyn cael eich paru ag astudiaethau ymchwil addas – yna penderfynwch a hoffech chi gymryd rhan.

Cofrestru nawr

Fideo: Dechreuwch arni gyda Be Part of Research

Dysgwch fwy am gymryd rhan mewn ymchwil trwy Be Part of Research.

'Dechreuwch arni gyda Be Part of Research’ – trawsgrifiad fideo

  • Dolen YouTube i’r fideo – mae’r fideo hwn yn para 85 eiliad
  • Disgrifiad o’r fideo – Mae Be Part of Research yn wasanaeth ‘paru’ am ddim sy’n eich helpu i gymryd rhan mewn ymchwil yn seiliedig ar y cyflyrau iechyd y mae gennych ddiddordeb ynddyn nhw. Darganfyddwch sut mae’r gwasanaeth yn gweithio a sut mae’n ei gwneud hi’n hawdd cymryd rhan mewn ymchwil.

Hygyrchedd – nodweddion gweledol yn unig

Mae’r nodweddion canlynol wedi’u cynnwys yn y fideo hwn i wella’r cynhyrchiad gweledol. Mae’r holl wybodaeth hanfodol sydd ei hangen i ddeall cyd-destun y fideo hwn ar gael drwy gynnwys sain y fideo neu’r trawsgrifiad disgrifiadol:

  • Cerddoriaeth yn y cefndir
  • Cymeriadau wedi’u hanimeiddio sy’n cynrychioli aelodau o’r cyhoedd sy’n cymryd rhan mewn ymchwil ac yn cofrestru â gwasanaeth Be Part of Research
  • Logos
  • Darnau ysgrifenedig o gynnwys sain y fideo

Trawsgrifiad disgrifiadol

0:00 - Ffrâm teitl

0:05 - Sain

Mae Be Part of Research yn ei gwneud hi’n hawdd dod o hyd i ymchwil iechyd a gofal, a chymryd rhan ynddi.

Drwy gofrestru ar-lein, byddwch chi’n ymuno â grŵp cynyddol o bobl sy’n gwirfoddoli i wella gofal iechyd ledled y DU.

O ganser, diabetes i glefyd y galon, mae ymchwil yn allweddol i ddatblygu triniaethau newydd a dod o hyd i ffyrdd gwell o reoli cyflyrau iechyd i bawb.

0:19 - Gweledol yn unig

Llaw wedi’i animeiddio yn dal ffôn symudol. Mae sgrin y ffôn symudol yn dangos tri eicon, sef ymennydd, calon a phâr o ysgyfaint. Mae’r fenyw yn dewis yr eicon calon.

0:28 - Sain

Er mwyn ein helpu ni i ddod o hyd i’r astudiaeth iawn i chi, byddwn ni’n gofyn am rywfaint o wybodaeth gennych, fel eich oedran, eich ethnigrwydd a lle rydych chi’n byw.

Gallwch chi hefyd ddweud wrthym pa feysydd ymchwil y mae gennych chi ddiddordeb ynddyn nhw.

Gallwch chi gymryd rhan os oes gennych chi gyflwr iechyd neu beidio.

Dewiswch ‘gwirfoddolwr iach’ wrth greu eich cyfrif.

0:44 - Gweledol yn unig a thestun ar y sgrin

Cymeriadau wedi’u hanimeiddio wrth arosfan bysiau yn defnyddio ffonau symudol. Mae testun uwchben y fenyw ar y chwith yn dweud “Iach” gyda thic gwyrdd. Mae testun uwchben y fenyw ar y dde yn dweud “Ecsema” gyda thic gwyrdd.

0:46 - Sain

Yna fe gewch chi eich paru ag astudiaethau addas yn eich ardal chi.

Byddwn ni’n anfon y manylion yn syth i’ch mewnflwch, er mwyn i chi allu penderfynu a ydych chi eisiau cymryd rhan.

0:49 - Gweledol yn unig a thestun ar y sgrin

Cymeriad wedi’i animeiddio yn dewis yr eicon calon mewn cronfa ddata o ddefnyddwyr. Mae’n pwyso’r botwm anfon. Mae’r testun “E-bost Wedi’i Dderbyn” yn ymddangos ar y sgrin cyfrifiadur wedi’i hanimeiddio.

Mae’r cymeriad yn clicio ar y testun ac mae e-bost gan Be Part of Research NIHR yn ymddangos.

0:55 - Sain

O arolygon ar-lein i dreialon clinigol, mae llawer o wahanol fathau o ymchwil y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw.

0:55 - Gweledol yn unig a thestun ar y sgrin

Llun o gymeriadau yn cymryd rhan mewn arolwg ar-lein, yn cael sgan MRI ac yn cael brechlyn.

1:00 - Sain

Mewn ysbytai lleol, meddygfeydd a hyd yn oed gartref.

Ymunwch â Be Part of Research heddiw a gwnewch wahaniaeth i iechyd a gofal pobl yfory.

1:11 - Ffrâm olaf

  • Brig y ffrâm – logo Be Part of Research a logo’r GIG
  • Canol y ffrâm - URL Be Part of Research - bepartofresearch.uk

1:19 - Closing frame

Pam cymryd rhan mewn ymchwil?

Bob tro mae rhywun yn cael triniaeth ar gyfer cyflwr iechyd, maen nhw’n cael y driniaeth honno oherwydd y nifer mawr o bobl sy’n cymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal.

Mae ymchwil yn allweddol i ddatblygu triniaethau newydd, dod o hyd i ffyrdd gwell o reoli cyflyrau iechyd a darparu gwell gofal. Neu atal pobl rhag datblygu cyflyrau yn y lle cyntaf.

Heb ymchwil, fyddai yna ddim brechlynnau Covid, na thriniaethau newydd ar gyfer canser. Ond y bobl sy’n cymryd rhan mewn ymchwil iechyd sy’n gwneud y darganfyddiadau hanfodol hyn yn bosibl.

Drwy gymryd rhan, gallwch chi helpu i roi bywydau iachach i bobl – nawr, ac yn y dyfodol. Mae’n hawdd cymryd rhan – cofrestrwch gyda Be Part of Research.

Sut mae Be Part of Research yn gweithio?

Rydym wedi gwneud yn siŵr ei bod hi’n hawdd cymryd rhan mewn astudiaethau. Gall ein gwasanaeth “paru ag ymchwil” am ddim eich helpu i ddod o hyd i’r ymchwil iawn i chi a chymryd rhan ynddi:

  1. Creu eich cyfrif

    Cofrestrwch eich manylion a dewiswch y cyflyrau iechyd y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

    Gallwch chi hefyd gofrestru â Be Part of Research gan ddefnyddio eich NHS login.

  2. Cael eich paru ag astudiaethau

    Byddwn yn e-bostio manylion astudiaethau sydd wedi’u cymeradwyo’n llawn, sy’n cyfateb i’ch diddordebau a’ch cyflwr/cyflyrau iechyd ac sy’n cymryd lle ar-lein neu mewn lleoliadau sy’n agos atoch chi, drwy e-bost.

  3. Cymryd rhan os byddwch yn dewis gwneud hynny

    Chi sy’n penderfynu a hoffech gymryd rhan bob amser. Cyn cofrestru ag astudiaeth, byddwch chi hefyd yn trafod y cyfle gyda’r tîm ymchwil. Bydd y tîm yn cadarnhau bod yr astudiaeth yn iawn i chi ac yn ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych.

Pwy all gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal?

P’un a oes gennych chi gyflwr iechyd ai peidio, gallwch chi helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd a gwell o drin clefydau, a gwella gofal drwy gymryd rhan mewn ymchwil.

Gallwn eich helpu i ddod o hyd i astudiaethau pwysig sy’n ymwneud â’r rhan fwyaf o gyflyrau iechyd, a chymryd rhan ynddynt, yn ogystal ag ymchwil sy’n anelu at wella gofal cymdeithasol.

Mae angen pobl sydd â chyflyrau iechyd a phobl heb gyflyrau iechyd ar lawer o astudiaethau. Felly hyd yn oed os nad oes gennych chi ddiagnosis, gallwch chi gofrestru â Be Part of Research o hyd a gwneud gwahaniaeth.

I fwrw ati gyda Be Part of Research, mae angen i chi fod yn 18 oed neu drosodd ac yn byw yn y DU.

Cyfarfod â’n gwirfoddolwyr

Beth yw Be Part of Research?

Mae Be Part of Research yn wasanaeth ledled y DU sy’n helpu pobl i ddeall beth yw ymchwil a’r hyn a allai olygu i gymryd rhan. Mae hefyd yn dangos pa ymchwil sy’n digwydd ar hyn o bryd ledled y DU.

Gallwch chi greu cyfrif am ddim neu chwilio am dreialon ac astudiaethau i gyflyrau iechyd y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt, mewn lleoliadau sy’n agos atoch chi.

Mae Be Part of Research yn cael ei redeg gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR), mewn cydweithrediad â’r GIG a’r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cenhadaeth NIHR yw gwella iechyd a chyfoeth y genedl drwy ymchwil.

Ariennir Be Part of Research gan lywodraeth y DU, drwy’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC).

Gwybodaeth am gymryd rhan

Diogelwch wrth gymryd rhan

Caiff pob un o’r astudiaethau ar Be Part of Research eu rheoleiddio a’u rheoli’n drylwyr er mwyn diogelu cyfranogwyr. Byddwch yn cael gwybod popeth mae’r ymchwilwyr yn ei wybod am y risgiau a’r sgil-effeithiau posibl, er mwyn i chi allu gwneud dewis gwybodus ynghylch a ydych eisiau cymryd rhan.

Dysgwch fwy am beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi’n cymryd rhan mewn astudiaeth.

Mae’n fwy cyfleus nag ydych chi’n ei feddwl

Mae ymchwil yn cael ei chynnal mewn llawer o leoedd gan gynnwys ysbytai’r GIG, clinigau meddygon teulu, neu weithiau yn eich cartref eich hun. Mae llawer o wahanol fathau o astudiaethau hefyd y mae angen treulio gwahanol gyfnodau o amser yn cymryd rhan ynddynt. Penderfynwch beth sy’n gweithio orau i chi ac yna dewch o hyd i astudiaethau sy’n cyd-fynd â’ch amserlen.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol

Mae’r rhan fwyaf o’r astudiaethau ar Be Part of Research yn ddi-dâl ac maent yn dibynnu ar gyfranogiad gwirfoddolwyr o bob cwr o’r DU. Gall eich costau teithio gael eu had-dalu felly mae’n werth siarad â thîm yr astudiaeth ynglŷn â’r ad-daliadau sydd ar gael. Drwy gymryd rhan mewn ymchwil, byddwch yn helpu i wella gofal a thriniaethau nawr – ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.