Telerau ac Amodau

Adolygiad nesaf: Mehefin 2027

Mae’r dudalen hon a phob tudalen y mae’n cysylltu â hi yn esbonio Amodau a Thelerau Be Part of Research. Trwy fynd i wefan Be Part of Research, a’i defnyddio, rydych yn derbyn y byddwch yn cydymffurfio â’r Amodau a Thelerau canlynol, sy’n dod i rym o’r ddyddiad yr byddwch yn defnyddio’r wefan am y tro cyntaf.

Pwy ydym ni

Mae Be Part of Research yn cael ei ariannu gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) ac yn cael ei gyflenwi gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) ynghyd ag asiantaethau ymchwil iechyd ledled y DU megis Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon, NHS Research Scotland, ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae Be Part of Research yn darparu tri gwasanaeth:

  1. Modd o chwilio am astudiaethau ledled y DU i alluogi’r cyhoedd i ddod o hyd i astudiaethau ymchwil iechyd a allai fod o ddiddordeb iddynt, gan ddarparu manylion cyswllt ar gyfer tîm yr astudiaeth.
  2. Gwybodaeth er mwyn i’r cyhoedd ddysgu am gymryd rhan mewn ymchwil.
  3. Swyddogaeth gofrestrfa i alluogi gwirfoddolwyr i gofrestru gyda Be Part of Research a nodi’r meysydd ymchwil y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt.

Defnydd derbyniol

Mae data yn y gwasanaeth hwn yn eiddo i’r yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a nhw yw’r Rheolwr Data. Mae’r telerau ychwanegol canlynol hefyd yn berthnasol wrth i chi defnyddio’r gwefan:

Creu cyfrif Be Part of Research

Mae hi ond yn bosibl i chi greu cyfrif Be Part of Research os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn. Mae pwy all gymryd rhan a sut i gymryd rhan yn Be Part of Research yn esbonio sut mae’r gwasanaeth yn gweithio ar gyfer ein gwirfoddolwyr.

Os byddwch chi’n creu cyfrif, disgwylir i chi gydymffurfio a chytuno ag arferion da diogelu gwybodaeth safonol, gan gynnwys:

  • peidio â rhannu’ch cyfrif gydag unrhyw un arall
  • dewis cyfrineiriau diogel a sicrhau bod dilysu aml-ffactor wedi’i sefydlu ar eich cyfrif
  • sicrhau mai dim ond chi sy’n cael mynediad i’ch cyfrif; os ydych chi’n caniatáu i unrhyw berson arall ddefnyddio’ch cyfrif, rydych chi’n gwneud hynny ar eich risg eich hun yn llwyr
  • cynnal eich cofnod gwirfoddolwyr, gan ddiweddaru’r cofnod gydag unrhyw newid yn y manylion yn ôl yr angen
  • cytuno y gall tîm yr astudiaeth gynghori tîm Be Part of Research o ran pa astudiaethau yr ydych chi wedi dangos diddordeb mewn cymryd rhan ynddynt ac yr ydych chi wedi cofrestru ar eu cyfer i’w alluogi i fesur llwyddiant Cofrestrfa Be Part of Research
  • mynd at ein gwasanaeth gan ddefnyddio cysylltiad rhyngrwyd diogel yn unig, a sicrhau bod gan eich dyfais feddalwedd diogelwch gwrthfeirysau ei hun

Bydd tîm Be Part of Research ond yn cysylltu â chi am astudiaethau sy’n cael eu cefnogi gan Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal. Gall yr astudiaethau hyn gael eu cynnal gan:

  • sefydliadau anfasnachol (megis y GIG, prifysgolion a sefydliadau academaidd)
  • cwmnïau masnachol sy’n cynnal ymchwil iechyd (megis sefydliadau ymchwil clinigol a chwmnïau fferyllol)

Sylwch na fydd y canlynol yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar eich gofal meddygol:

  • cofrestru’ch manylion i alluogi cysylltu â chi
  • tynnu caniatâd yn ôl o ran galluogi gysylltu â chi
  • penderfynu a ddylech gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil

Gallwch roi’r gorau i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ar unrhyw adeg. Am ragor o wybodaeth, gallwch gyfeirio at yr adran "Tynnu’ch caniatâd yn ôl" yn ein hysbysiad preifatrwydd.

Ymchwilwyr sy’n defnyddio Be Part of Research

Gallwch ddarllen gwybodaeth i ymchwilwyr ynghylch defnyddio’r gwasanaeth hwn.

Dim ond ymchwilwyr sydd wedi’u cymeradwyo gan dîm Be Part of Research sy’n gallu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Gall ymchwilwyr yng nghyd-destun y gwasanaeth hwn fod yn:

  • staff y GIG
  • staff academaidd
  • ymchwilwyr proffesiynol cysylltiedig mewn sefydliadau masnachol neu anfasnachol (er enghraifft, cydlynwyr astudiaethau neu reolwyr prosiect)

Bydd ymchwilwyr cymeradwy’n gweithio’n agos gyda thîm Be Part of Research i roi gwybodaeth gywir, fanwl a chyfredol am eu hastudiaethau. Rhaid iddynt wneud y canlynol:

  • cadarnhau bod yr astudiaeth wedi’i rhestru ar Bortffolio Rhwydwaith Cyflenwi Ymchwil Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal a/neu fod yn derbyn cyllid Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal ar gyfer yr astudiaeth
  • cynnwys Be Part of Research fel adnodd recriwtio yn eu cais Pwyllgor Moeseg Ymchwil cymeradwy, ynghyd â gwahoddiad ar e-bost i’r astudiaeth i’w anfon at wirfoddolwyr
  • sicrhau bod yr astudiaeth wedi’i chofrestru ar ISRCTN neu ClinicalTrials.gov (ar gyfer astudiaethau masnachol, neu’r rhai nad ydynt wedi’u cynnwys ym mhortffolio RDN, sef Rhwydwaith Cyflenwi Ymchwil Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal) a bod yr wybodaeth ar y safleoedd hynny yn cael ei diweddaru
  • rhoi data atgyfeirio gwirfoddolwyr Be Part of Research sydd wedi’u recriwtio i’r astudiaeth – mae’n rhaid i ymchwilwyr gofnodi rhifau cyfeirnod unigryw gwirfoddolwyr (wedi’u rhannu wrth recriwtio) a’u cyflwyno i’r tîm Be Part of Research

Mae’n rhaid i ymchwilwyr hefyd ofalu bod gwirfoddolwyr ar gyfer yr astudiaeth yn cael profiad da gyda gwasanaeth Be Part of Research. Mae’n rhaid bod ymchwilwyr yn:

  • darparu dull priodol er mwyn i wirfoddolwyr gael eu cyfeirio at (er enghraifft, wefan yr astudiaeth, holiadur sgrinio ymlaen llaw, neu aelodau penodol o dîm yr astudiaeth) - cytunir ar hyn gyda thîm Be Part of Research cyn awdurdodi’r astudiaeth i ddefnyddio’r gofrestrfa Be Part of Research
  • sicrhau bod holl wybodaeth bersonol gwirfoddolwyr ond yn cael ei defnyddio gan sefydliadau partner at ddibenion eu rôl wrth weinyddu’r gwasanaeth hwn
  • mynd ati i gyfathrebu â’r gwirfoddolwyr fel eu bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ac yn ymgysylltu â phroses yr astudiaeth
  • ymateb i wirfoddolwyr o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt ar gyfer eu hastudiaeth, drwy dîm Be Part of Research, er mwyn sicrhau profiad da i wirfoddolwyr
  • cymryd camau eraill i hybu bod gwirfoddolwyr yn cael profiad da gyda’r gwasanaeth a’r astudiaeth
  • monitro’r profiad fel bod modd gwneud gwelliannau eraill
  • rhannu canlyniadau’r ymchwil gyda gwirfoddolwyr Be Part of Research unwaith eu bod ar gael

Gall methu â chydymffurfio â’r amodau a thelerau hyn, neu gwynion difrifol/mynych gan gyfranogwyr, olygu gwrthod mynediad i’r gwasanaeth ar gyfer astudiaethau cyfredol neu yn y dyfodol. Ar gyfer unrhyw astudiaeth benodol, y noddwr sydd â’r cyfrifoldeb am sicrhau bod defnyddio gwasanaeth Be Part of Research yn unol â’r amodau a thelerau hyn.

Staff Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal a staff cymorth technegol

Bydd pob aelod o staff sy’n rheoli Be Part of Research yn sicrhau bod buddiannau gwirfoddolwyr yn cael eu hybu a’u diogelu er mwyn ceisio sicrhau profiad cadarnhaol o wirfoddoli i gymryd rhan mewn ymchwil, ac i ddiogelu uniondeb y system ymchwil iechyd a gofal.

Dim ond tîm Be Part of Research fydd yn cyrchu unrhyw wybodaeth bersonol am wirfoddolwyr. Mae hyn at ddibenion paru gwirfoddolwyr â chyfleoedd mewn astudiaethau ymchwil iechyd gan ddefnyddio’r gofrestr Be Part of Research, ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig a dim mwy. Rhaid trin yr holl wybodaeth a dogfennaeth a gyrchwyd trwy gofrestrfa Be Part of Research yn gwbl gyfrinachol bob amser, a’i rheoli o dan ddyletswydd cyfrinachedd yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data bresennol.

Mae ein tîm datblygu a rheoli gwasanaeth, PA Consulting, yn dal y data ar gyfer cofrestrfa Be Part of Research ar Amazon Cognito, yn ôl yr hyn sydd wedi’i amlinellu yn ein hysbysiad preifatrwydd. Mae PA Consulting yn gyfrifol am storio’r data ac ni fydd ganddo fynediad i’r data hwn ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, fel angen cael mynediad i’r system i gywiro problem dechnegol ddifrifol.

Wrth gael mynediad i’r system yn y modd hwn, bydd disgwyl i PA Consulting:

  • sicrhau bod trefniadau diogelwch cadarn ar waith i atal datgelu unrhyw ddata yn ddireswm
  • ystyried y gofynion cyfrinachedd uchel sydd wedi’u priodoli i unrhyw ddata sensitif y gallent ei weld ystod mynediad o’r fath

Cysylltu â safleoedd eraill o Be Part of Research

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan trydydd parti yr ydym yn cysylltu â hi. Nid yw cysylltu â safle o Be Part of Research yn golygu mewn unrhyw ffordd ein bod yn cymeradwyo’r cynnwys ynddi.

Mae’r wefan yn cyflwyno gwybodaeth heb warant o unrhyw fath, p’un ai yw hynny:

  • yn ddatganedig neu’n oblygedig
  • yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r gwarantau ymhlyg o ansawdd boddhaol
  • yn addas at ddiben penodol
  • heb dor-cyfraith
  • yn gydweddol
  • yn ddiogel
  • yn gywir

Cysylltu â Be Part of Research

Gallwch gysylltu â gwefan Be Part of Research, gan gynnwys trwy’r teclyn yr ydym yn ei ddarparu. Rhaid i chi wneud hynny mewn ffordd sy’n deg ac yn gyfreithlon ac nad yw’n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno.

Rhaid i chi beidio â sefydlu dolen mewn ffordd sy’n awgrymu unrhyw fath o berthynas â ni, neu gymeradwyaeth o’n rhan ni. Rydym yn ymgymryd â thracio’r teclyn a’r dolenni trwy Google Analytics i ddadansoddi ffynhonnell ymwelwyr â wefan Be Part of Research.

Y Gwasanaeth sydd ar gael

Er bod Canolfan Cydlynu Rhwydwaith Cyflenwi Ymchwil Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (RDNCC NIHR) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr holl wybodaeth ar Be Part of Research yn gywir ac ar gael mewn modd amserol, darperir y Gwasanaeth "fel y mae" ac ni allwn warantu:

  • bod yr wybodaeth yn gywir, yn gyflawn neu’n gyfredol
  • bydd y gwasanaeth hwn yn bodloni’ch gofynion neu’ch anghenion
  • bydd mynediad i neu ddefnydd yr un peth yn ddi-dor neu’n gwbl ddiogel

Os ydych chi’n dod o hyd i wybodaeth anghywir, rhowch wybod i ni drwy gysylltu â bepartofresearch@nihr.ac.uk.

Rydym yn ymdrechu i gynnig darpariaeth gwasanaeth lefel uchel. Fodd bynnag, nid yw darpariaeth ar unrhyw adeg, yn enwedig y tu allan i oriau cymorth, wedi’i gwarantu. Mae cymorth wedi’i gyfyngu i oriau gwasanaeth craidd (9am i 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc).

Defnyddio’r swyddogaeth chwilio am astudiaethau

Mae gwefan Be Part of Research yn rhestru gymaint o’r ymchwil sy’n digwydd yn y DU â phosibl er mwyn galluogi gwirfoddolwyr i chwilio am astudiaethau y gallent fod eisiau cymryd rhan ynddynt.

Mae’r swyddogaeth chwilio yn dangos data yr ydym yn ei gael o’r cofrestrau canlynol:

Nid yw manylion yr astudiaethau yn Be Part of Research yn cael eu newid o ffrwd y ffynhonnell wreiddiol ac maent yn cynnwys dolen yn ôl i’r ffynhonnell wreiddiol honno. Mae Be Part of Research yn caniatáu i’r cyhoedd chwilio am astudiaethau ymchwil sy’n digwydd yn y DU o un safle. Nid oes gan y system yr ymarferoldeb i ychwanegu, tynnu’n ôl, newid neu ddileu unrhyw ran o’r data a ddarperir gan ClinicalTrials.gov ac ISRCTN.

Gan fod y cofrestrau sy’n darparu’r data astudiaeth yn allanol i Be Part of Research, ni all y gwasanaeth dderbyn cyfrifoldeb nac atebolrwydd am gynnwys yr wybodaeth a ddarperir.

Daw rhai manylion astudiaeth hefyd o System Rheoli Portffolio Canolog (CPMS) Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, nad yw’n hygyrch i’r cyhoedd. Ni all yr wybodaeth hon gael ei symud, ei newid na’i dileu gan dîm Be Part of Research

Torri’r telerau defnyddio hyn

Mae’r telerau defnyddio hyn (ynghyd â’r hysbysiad preifatrwydd a’r polisi cwcis y cyfeirir atynt yn y telerau defnyddio hyn) yn nodi’r cytundeb cyfan rhyngoch chi a ni o ran y gwasanaeth hwn.

Os byddwch yn dod yn ymwybodol o unrhyw dorri telerau wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn a’r data dan sylw, yna dylech roi gwybod i rdncc.ig@nihr.ac.uk.

Eiddo deallusol

Mae’r enwau, delweddau a logos sy’n nodi gwefan Be Part of Research yn farciau perchnogol Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Byddem yn falch iawn os hoffech ein helpu ni i hyrwyddo‘r gwasanaeth hwn. Os hoffech gopïo neu ddefnyddio unrhyw ddeunydd, yna cysylltwch â’r tîm ar bepartofresearch@nihr.ac.uk.

Mwy o wybodaeth a chysylltiadau

Hysbysiad Preifatrwydd Be Part of Research ar gyfer y gwasanaeth hwn, sy’n cynnwys manylion cyswllt ar gyfer ceisiadau am wybodaeth sy’n gysylltiedig â GDPR.

Ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw beth amheus wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn e.e. toriad yn y ffordd y dylid defnyddio’r gwasanaeth hwn: rdncc.ig@nihr.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau am yr amodau a thelerau hyn: bepartofresearch@nihr.ac.uk.

Ymwadiad

Darperir gwybodaeth ar wefan Be Part of Research, gan gynnwys dolenni i gynhyrchion a gwasanaethau y llywodraeth neu drydydd partïon, "fel y mae".

Nid ydym yn gwarantu bod yr wybodaeth:

  • yn gywir
  • yn addas i’r diben
  • yn gyfredol
  • yn addas ar gyfer eich anghenion
  • ddim yn torri hawliau eiddo deallusol

Ni allwn warantu chwaith y bydd y wefan a’r wybodaeth ynddi:

  • ar gael bob amser
  • yn gweithredu heb wallau
  • yn rhydd o feirysau neu gydrannau niweidiol eraill

Ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw fath o golled neu ddifrod (e.e. colli data, incwm neu elw) a allai ddeillio o’r canlynol:

  • defnyddio’r wefan
  • methu defnyddio’r wefan hon
  • dibynnu ar wybodaeth a ddarperir ar y wefan

O dro i dro, gallwn fonitro neu adolygu trafodaethau, sgyrsiau, postiadau, negeseuon a byrddau bwletin ar Be Part of Research. Fodd bynnag, nid yw’n ofynnol i ni wneud hyn.

Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw gynnwys sy’n cael ei rannu yn y meysydd hyn ac nid ydym yn gyfrifoldeb nac yn atebol am yr hyn sy’n deillio o’r cynnwys hwnnw. Gall hyn fod yn gynnwys:

  • â gwallau
  • â gwybodaeth ar goll
  • sy’n torri hawliau rhywun
  • sy’n ddifenwol
  • sy’n anweddus
  • sy’n anghywir
  • This same principle applies to any information shared in any location hosted on nihr.ac.uk.

Mae’r egwyddor hon yn berthnasol i unrhyw wybodaeth a rennir mewn unrhyw leoliad a gynhelir ar nihr.ac.uk.

Paratoi’r amodau a thelerau hyn

Paratowyd y telerau ac amodau ar gyfer Be Part of Research ar 15 Ebrill 2026.