Sut rydym yn defnyddio cwcis
Mae Be Part of Research yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar y wefan. Ffeiliau gwybodaeth bach yw cwcis sy’n cael eu cadw ar eich ffôn, tabled neu gyfrifiadur pan fyddwch chi'n ymweld â gwefan. Os byddwch chi’n parhau heb newid gosodiadau eich porwr, byddwn ni’n derbyn hyn fel eich cydsyniad i dderbyn y cwcis hyn.
Fodd bynnag, os dymunwch, gallwch chi newid gosodiadau eich porwr er mwyn rhwystro neu ddileu cwcis ar unrhyw adeg. Ewch i About Cookies i gael gwybodaeth am sut i wneud hyn.
Gall cwcis wella eich profiad trwy wneud y canlynol:
- Galluogi ein gwasanaeth i adnabod eich dyfais, felly nid oes angen i chi roi'r un wybodaeth dro ar ôl tro
- Cydnabod pan fyddwch chi eisoes wedi rhoi enw defnyddiwr a chyfrinair, fel nad oes angen i chi wneud hynny ar gyfer pob tudalen we ddilynol y byddwch chi’n ymweld â hi
- Ein galluogi i fesur faint o bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau rydym yn eu darparu, fel y gallwn ni sicrhau eu bod yn haws ac yn gyflymach i'w defnyddio
- Ein galluogi i ddadansoddi data, yn ddienw, fel y gallwn ni gael gwell dealltwriaeth o’r ffordd y mae pobl yn defnyddio'r gwasanaeth
- Gallwch chi ddysgu mwy am gwcis dudalen Gov.UK Cookies
- Ni all cwcis gael eu defnyddio i nodi pwy ydych chi
Gweler isod am ragor o fanylion am gwcis y gallech chi ddod ar eu traws wrth ymweld â gwefan Be Part of Research. Mae'r manylion hyn yn cynnwys pa wybodaeth sy'n cael ei chadw, pa mor hir y gallwch chi ddisgwyl iddi gael ei storio, a sut y bydd eich profiad o'n gwefan yn newid os byddwch chi’n rhwystro cwcis unigol rhag cael eu hanfon i'ch dyfais.
Ar wefan Be Part of Research, rydym yn defnyddio cwcis at dri diben.
Y ddau ddiben cyntaf yw olrhain eich data yn ddienw a diogelu eich sesiwn pan fyddwch chi wedi mewngofnodi i'n gwefan. Mae'r ddau gwci hyn yn gwcis parti cyntaf, hynny yw, nid ydynt yn cael eu holrhain ar draws sawl gwefan.
Y trydydd diben yw gweld demograffeg y sawl sy’n defnyddio ein gwasanaeth. Gwneir hyn trwy gwci trydydd parti, sef cwci sy'n cael ei olrhain ar draws sawl gwefan, o'r enw DoubleClick.
Cwci Google Analytics
- Rydym yn defnyddio Google Analytics i olrhain yn ddienw sut rydych chi'n defnyddio'r wefan hon. Mae cwci Google Analytics yn storio gwybodaeth fel pryd y gwnaethoch chi ymweld â'r safle, p'un a ydych chi wedi ymweld â'r wefan o'r blaen, pa dudalennau rydych chi'n ymweld â nhw, pa mor hir rydych chi ar y wefan, sut wnaethoch chi gyrraedd yno a beth rydych chi'n clicio arno.
- Nid yw’r cwci hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i nodi pwy ydych chi, fel eich enw neu gyfeiriad, felly ni ellir defnyddio'r wybodaeth hon at y diben hwnnw. Ond bydd yn defnyddio cyfeiriad IP eich cyfrifiadur i nodi eich lleoliad daearyddol.
- Mae'r cwci yn mesur niferoedd a chyfeintiau ymwelwyr er mwyn sicrhau bod anghenion defnyddwyr yn cael eu bodloni, ac i ddeall sut y gallai'r gwasanaethau a ddarparwn gael eu gwella.
- Nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio na rhannu ein data dadansoddol.
- Mae cwcis Google Analytics yn dod i ben 38 mis ar ôl eich ymweliad diwethaf â'r wefan hon.
- Mae manylion llawn y cwcis a osodir gan Google Analytics yn cael eu cyhoeddi ar wefan Google.
- Mae Google hefyd yn cyhoeddi ychwanegyn ar gyfer porwr, sy'n eich galluogi i ddewis nad yw gwybodaeth am eich ymweliad â’r wefan yn cael ei hanfon i Google Analytics.
Y cwci DoubleClick
- Rydym yn defnyddio cwci trydydd parti (cwci nad yw ein gwefan yn ei storio ar eich dyfais, ond y mae’n gallu cael mynediad iddo), sef DoubleClick i olrhain demograffeg ymwelwyr â'r wefan hon. Nid yw’r cwci hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i nodi pwy ydych chi. Mae'n caniatáu i ni amcangyfrif oedran, rhyw a lleoliad bras ymwelwyr â'r wefan hon. Dim ond i lywio gwelliannau i wasanaethau rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon ac nid at ddibenion hysbysebu. I gael mwy o wybodaeth am y cwci hwn, ewch i dudalen Cwestiynau Cyffredin Preifatrwydd Hysbysebu Google. Gellir dod o hyd i wybodaeth benodol am sut mae'r cwci hwn yn gweithio ym mholisi preifatrwydd Google o dan “Information Google Collects"
- Mae cwcis Google Analytics yn dod i ben 38 mis ar ôl eich ymweliad diwethaf â'r wefan hon.
- Mae manylion llawn y cwcis a osodir gan Google Analytics yn cael eu cyhoeddi ar wefan Google. Mae Google hefyd yn cyhoeddi ychwanegyn ar gyfer y porwr sy'n eich galluogi i ddewis nad yw gwybodaeth am eich ymweliad â’r wefan yn cael ei hanfon i Google Analytics.
Cwci sesiwn fewngofnodi
Rydym hefyd yn defnyddio cwci 'sesiwn fewngofnodi', a elwir yn JSESSIONID, sy'n rheoli ac yn adnabod eich sesiwn ddiogel wrth i chi ddefnyddio'r wefan hon. Bydd y cwci hwn yn dod i ben pan fyddwch chi’n allgofnodi neu'n gadael y wefan.
Cwcis hanfodol
Mae cwcis hanfodol yn gwneud pethau fel storio eich sesiwn pan fyddwch chi'n mewngofnodi ac yn cynnal diogelwch. Mae eu hangen er mwyn i'r wefan weithio'n iawn ac nid oes angen i ni ofyn am ganiatâd i'w defnyddio.
Cwcis sy'n mesur y defnydd a wneir o’r wefan
Rydym yn defnyddio cwcis Google Analytics a Hotjar i fesur sut rydych chi'n defnyddio Be Part of Research.
Mae'r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth am:
- Sut wnaethoch chi gyrraedd ein gwefan (e.e. trwy beiriant chwilio neu drwy ddolen)
- Y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw a pha mor hir rydych chi'n ei dreulio ar bob tudalen
- Yr hyn rydych chi'n ei glicio arno wrth ymweld â Be Part of Research
Mae'r data sy'n cael ei storio yn Google Analytics a Hotjar yn ddienw ac nid ydym yn caniatáu i Google na Hotjar ddefnyddio na rhannu'r data am sut rydych chi'n defnyddio Be Part of Research.
Cwcis cyfathrebu a marchnata
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gallant wneud pethau fel mesur yn ddienw sut rydych chi'n gwylio fideos YouTube neu sut rydych chi'n rhannu cynnwys ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Gan fod y cwcis hyn yn cael eu gosod gan ddarparwyr gwasanaeth trydydd parti, ni allwn eu diffodd ar wefan Be Part of Research. Fodd bynnag, gallwch ddewis peidio â gweld ein fideos ar y wefan a/neu ddefnyddio'r botymau rhannu "Addthis" ar wefan Be Part of Research er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddata cwcis yn cael ei storio ar gyfer y gwasanaethau hyn ar eich dyfais, neu fel arall gallwch chi newid gosodiadau eich porwr i wrthod cwcis.
Essential cookies
Enw’r cwci | Diben | Pryd mae’n dod i ben |
---|---|---|
BPoRcookie | Mae’n olrhain cwcis a ddefnyddir ar y gwasanaeth | Diwedd y sesiwn |
BPoRGDPRconsent | Mae’n storio dewisiadau defnyddio cwcis | 180 o ddiwrnodau |
currentUrl | Mae’n olrhain y wefan y mae'r defnyddiwr wedi cyrraedd ohoni | Byth |
lastNonLoginUrl | Mae’n olrhain y wefan y mae'r defnyddiwr wedi cyrraedd ohoni | Byth |
previousUrl | Mae’n olrhain y wefan y mae'r defnyddiwr wedi cyrraedd ohoni | Byth |
JSESSIONID | Mae cwci JSESSIONID yn cael ei ddefnyddio gan New Relic i storio dynodwr sesiwn fel bod New Relic yn gallu monitro nifer y sesiynau ar gyfer cymhwysiad | Diwedd y sesiwn |
opvc | dotCMS. Cwci-Unwaith-Pob-Ymweliad. Caiff ei ailgynhyrchu bob tro y bydd defnyddiwr yn ymweld â gwefan Be Part of Research. | Diwedd y sesiwn |
sitevisitscookie | dotCMS. Mae’n olrhain sawl gwaith y mae defnyddiwr wedi ymweld â'r wefan. Mae’n dibynnu ar y dmid i olrhain y defnyddiwr unigryw. | 5 mlynedd |
dmid | dotCMS. Mae’n adnabod ymwelydd unigryw â gwefan dros nifer o ymweliadau â’r wefan. | 5 mlynedd |
Cookies that measure website use
Enw’r cwci | Diben | Pryd mae’n dod i ben |
---|---|---|
_ga | Mae cwci _ga, sydd wedi'i osod gan Google Analytics, yn cyfrifo data ymwelwyr, sesiynau ac ymgyrchu ac mae hefyd yn olrhain y ffordd y mae’r wefan yn cael ei defnyddio ar gyfer adroddiad dadansoddi'r wefan. Mae'r cwci yn storio gwybodaeth yn ddienw ac yn neilltuo rhif a gynhyrchir ar hap i adnabod ymwelwyr unigryw. | 13 mis |
_gid | Mae cwci _gid, sydd wedi'i osod gan Google Analytics, yn storio gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio gwefan, ac mae hefyd yn creu adroddiad dadansoddi o berfformiad y wefan. Mae rhywfaint o'r data sy'n cael ei gasglu yn cynnwys nifer yr ymwelwyr, eu ffynhonnell, a'r tudalennau maen nhw’n ymweld â nhw'n ddienw. | 1 diwrnod |
_gat_UA-125366174-2 | Amrywiad ar y cwci _gat sydd wedi’i osod gan Google Analytics a Google Tag Manager i ganiatáu i berchnogion gwefannau olrhain ymddygiad ymwelwyr a mesur perfformiad y wefan. Mae'r elfen batrwm yn yr enw yn cynnwys rhif adnabod unigryw'r cyfrif neu'r wefan y mae'n ymwneud â hi. | 1 munud |
_hjFirstSeen | Mae Hotjar yn gosod y cwci hwn er mwyn nodi sesiwn gyntaf defnyddiwr newydd. Mae'n storio gwerth gwir/anwir, gan nodi ai dyma'r tro cyntaf i Hotjar weld y defnyddiwr hwn. | 30 munud |
_hjIncludedInSessionSample | Mae Hotjar yn gosod y cwci hwn er mwyn gwybod a yw defnyddiwr wedi'i gynnwys yn y samplu data a ddiffinnir gan uchafswm sesiynau dyddiol y wefan. | 2 funud |
_hjIncludedInPageviewSample | Mae Hotjar yn gosod y cwci hwn er mwyn gwybod a yw defnyddiwr wedi'i gynnwys yn y samplu data a ddiffinnir gan uchafswm y tudalennau yr edrychir arnynt ar y wefan. | 2 funud |
_hjAbsoluteSessionInProgress | Mae Hotjar yn gosod y cwci hwn er mwyn canfod sesiwn gweld tudalennau gyntaf defnyddiwr. Baner Gwir/Anwir yw hon sydd wedi'i gosod gan y cwci. | 30 munud |
_hjDonePolls | Cwci Hotjar. Mae'r cwci hwn yn cael ei osod unwaith y bydd ymwelydd yn cwblhau arolwg barn gan ddefnyddio'r Teclyn Adborth. Mae’n cael ei ddefnyddio i sicrhau nad yw'r un arolwg yn ailymddangos os yw eisoes wedi'i gwblhau. | Blwyddyn |
CONSENT | Mae YouTube yn gosod y cwci hwn trwy fideos YouTube wedi'u hymgorffori ac yn cofrestru data ystadegol dienw. | 2 flynedd |
hjViewPortId | Mae'n storio manylion porth gweld defnyddwyr (maint y sgrin), fel maint a dimensiynau a hyd y sesiwn. | Diwedd y sesiwn |
_hjMinimizedPolls | Cwci Hotjar. Mae'r cwci hwn yn cael ei osod unwaith y bydd ymwelydd yn lleihau Teclyn Adborth. Mae'n cael ei ddefnyddio i sicrhau bod y teclyn yn aros yn llai pan fydd yr ymwelydd yn symud drwy wefan Be Part of Research. | Blwyddyn |
_hjRecordingEnabled | Mae’n cael ei osod pan fydd recordiad yn dechrau. Mae’n cael ei ddarllen pan fydd y modiwl Recordio yn cychwyn i weld a yw'r defnyddiwr eisoes mewn recordiad mewn sesiwn benodol a hyd y sesiwn. | Diwedd y sesiwn |
_hjRecordingLastActivity | Mae’n cael ei osod mewn storfa sesiynau yn hytrach na chwcis. Caiff ei ddiweddaru pan fydd recordiad defnyddiwr yn dechrau a phan fydd data yn cael ei anfon drwy'r WebSocket (mae'r defnyddiwr yn cyflawni gweithred y mae HotJar yn ei chofnodi) a hyd y sesiwn. | Diwedd y sesiwn |
_hjSessionUser_1287460 | Hotjar – Mae’n sicrhau bod data o ymweliadau dilynol â'r un wefan yn cael eu priodoli i'r un manylion adnabod defnyddiwr. | Blwyddyn |
_hjSession_1287460 | Hotjar - Mae’n cadw data ar y sesiwn gyfredol. Mae’n sicrhau bod ceisiadau dilynol yn ffenestr y sesiwn yn cael eu priodoli i'r un sesiwn. | 30 munud |
_gat | Mae'r cwci hwn wedi'i osod gan Google Universal Analytics i atal y gyfradd ceisiadau ac felly cyfyngu ar y data a gesglir ar wefannau traffig uchel. | 1 munud |
Communication and marketing cookies
Enw’r cwci | Diben | Pryd mae’n dod i ben |
---|---|---|
YSC | Mae cwci YSC wedi'i osod gan YouTube a chaiff ei ddefnyddio i olrhain sawl gwaith yr edrychir ar fideos wedi'u hymgorffori ar dudalennau YouTube. | Diwedd y sesiwn |
VISITOR_INFO1_LIVE | Cwci sydd wedi'i osod gan YouTube i fesur lled band sy'n penderfynu a yw'r defnyddiwr yn cael y rhyngwyneb chwaraewr hen neu newydd. | 6 mis |
yt-remote-device-id | Mae YouTube yn gosod y cwci hwn er mwyn storio dewisiadau fideo'r defnyddiwr gan ddefnyddio fideo YouTube wedi'i fewnosod. | Byth |
yt-remote-connected-devices | Mae YouTube yn gosod y cwci hwn er mwyn storio dewisiadau fideo'r defnyddiwr gan ddefnyddio fideo YouTube wedi'i fewnosod. | Byth |
yt.innertube::requests | Mae'r cwci hwn, sydd wedi'i osod gan YouTube, yn cofrestru manylion adnabod unigryw er mwyn storio data ar ba fideos YouTube y mae'r defnyddiwr wedi'u gweld. | Byth |
yt.innertube::nextId | Mae'r cwci hwn, sydd wedi'i osod gan YouTube, yn cofrestru manylion adnabod unigryw er mwyn storio data ar ba fideos YouTube y mae'r defnyddiwr wedi'u gweld. | Byth |
Pan fyddwch chi’n ymweld â gwefan Be Part of Research am y tro cyntaf, byddwch chi’n cael eich gwahodd i dderbyn neu wrthod y cwcis ychwanegol rydym yn eu defnyddio. Unwaith y byddwch chi wedi derbyn neu wrthod y cwcis bydd eich dewisiadau yn cael eu cadw am chwe mis ac ni fyddwn ni’n gofyn i chi ailgadarnhau’r cwcis a ddewiswyd gennych.
Os byddwch chi’n gwrthod cwcis ychwanegol, byddant yn cael eu diffodd ar gyfer eich ymweliad ac am y cyfnod dilynol o 6 mis. Yn ystod y cyfnod hwnnw, ni fydd eich data yn cael ei rannu gyda Google Analytics na HotJar. Ar ddiwedd y cyfnod o chwe mis, gofynnir i chi gydsynio i ddefnyddio'r cwcis hyn eto.
Os hoffech chi ailosod eich dewisiadau cwcis ar unrhyw adeg, gallwch chi wneud hynny trwy glirio cwcis o osodiadau eich porwr. Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu rhywfaint o reolaeth dros y rhan fwyaf o gwcis trwy osodiadau'r porwr. I gael gwybod mwy am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi'u gosod, ewch i www.allaboutcookies.org.
Dysgwch sut i reoli cwcis ar borwyr poblogaidd:
I ddod o hyd i wybodaeth sy'n ymwneud â phorwyr eraill, ewch i wefan datblygwr y porwr.
I ddewis peidio â chael eich tracio gan Google Analytics ar draws pob gwefan, ewch i Google Analytics Opt-out Browser Add-on. Dyma Fersiwn 2.0 o'r Polisi Cwcis.