Disgwylir yr adolygiad nesaf: Ionawr 2025
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://bepartofresearch.nihr.ac.uk a volunteer.bepartofresearch.nihr.ac.uk.
Cynhelir y wefan hon gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR). Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech fod yn gallu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd, a ffontiau
- chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- darllen y rhan fwyaf o’r wefan ar ddyfeisiau heb sgrin, megis cyfrifiadur braille
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin, gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver
Rydym ni wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Os oes gennych chi anabledd, mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio.
Pa mor hygyrch yw Be Part of Research
Rydym yn gwybod y gallai’r rhannau canlynol o wefan Be Part of Research fod yn fwy hygyrch:
- Nid yw’r offeryn adborth trydydd parti a ddefnyddiwn i gasglu adborth ac i gynnal arolygon, Hotjar, mor hygyrch ag y gallai fod, er ein bod yn defnyddio’r cynnyrch yn ei fformat mwyaf hygyrch.
- Darperir rhywfaint o wybodaeth ar wefan Be Part of Research gan wasanaethau cysylltiedig (ISRCTN a ClinicalTrials.gov). Er enghraifft, gwybodaeth am astudiaethau penodol. Ni allwn reoli pa mor hygyrch yw’r cynnwys hwn.
- Darperir rhywfaint o wybodaeth astudio ar wefan Be Part of Research gan wasanaeth cysylltiedig (System Rheoli Portffolio Ganolog y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal) a chyfyngedig yw’r rheolaeth sydd gennym dros hygyrchedd yr wybodaeth hon.
- Rydym yn defnyddio offeryn trydydd parti, Mailchimp, ar gyfer cofrestru i dderbyn cylchlythyr. Rydym yn cyfyngu ar y defnydd o’r offeryn hwn ac yn darparu ffyrdd eraill o gofrestru ar gyfer y cylchlythyr.
Mae fideos ar draws y wefan a gynhelir gan wefan trydydd parti (youtube.com) nad yw mor hygyrch ag y gallai fod. Rydym yn darparu ffyrdd eraill o ymgysylltu â’r cynnwys hwn.
Rydym yn ymwybodol o’r materion canlynol ac mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i wella’r rhain:
- Llwytho astudiaethau diddiwedd ar y dudalen canlyniadau chwilio: Ar dudalen ganlyniadau y chwiliad am astudiaethau, mae gennym nodwedd llwytho diddiwedd nad yw’n gwbl hygyrch. Gall y nodwedd hon ei gwneud yn amhosibl i ddefnyddwyr gyrraedd gwaelod y dudalen. Rydym yn gweithio ar ddarparu ateb i hyn ar gyfer yr holl ddefnyddwyr ar hyn o bryd. Fodd bynnag, fel ateb dros dro, gall defnyddwyr adael y llwytho diddiwedd a llywio i’r troedyn gan ddefnyddio’r allwedd escape (Esc). Yn y dudalen ganlyniadau, rydym hefyd wedi cynnwys neges gudd weledol i hysbysu defnyddwyr eu bod yn mynd i ganlyniadau chwilio a fydd yn llwytho yn ddiddiwedd a sut i adael hyn. 3.2.2 Mewnbwn Ymlaen a 4.1.3 Negeseuon Statws WCAG 2.2.
- Dewis “meysydd ymchwil”: Wrth greu cyfrif gwirfoddoli, mae angen i bobl sy’n llywio â bysellfwrdd ddefnyddio’r allwedd Esc i gau’r dewis. 2.1.2 Dim Trap Bysellfwrdd WCAG 2.2.
- Dewisiadau testun eraill pan fo fideo a sain ar goll: Mae diffyg dewisiadau testun eraill ar ffurf trawsgrifiad i gyd-fynd â fideos yn golygu na fydd defnyddwyr sy’n drwm eu clyw neu’n fyddar yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth a ddarperir. Darperir capsiynau caeedig, ond gan eu bod yn cael eu cynhyrchu gan blatfform fideo trydydd parti, efallai na fyddant yn gywir. Rydym yn gweithio i ddatrys hyn ar hyn o bryd. 1.1.1 Cynnwys Di-destun, 1.2.1 Sain yn unig a Fideo yn unig (Wedi ei recordio ymlaen llaw), 1.2.2 Capsiynau (Wedi ei recordio ymlaen llaw), 1.2.3 Disgrifiad Sain neu Gyfryngau Arall (Wedi ei recordio ymlaen llaw) WCAG 2.2.
- Disgrifiad sain pan fo fideo ar goll: Mae gan rai fideos sain rannau tawel neu rannau sydd ond yn cynnwys cerddoriaeth. Gallai methu ag egluro i’r defnyddiwr sydd â nam ar ei olwg ei arwain i gredu ei fod yn colli gwybodaeth bwysig. Rydym yn gweithio i ddatrys hyn ar hyn o bryd. 1.2.3 Disgrifiad Sain neu Gyfryngau Arall (Wedi ei recordio ymlaen llaw), 1.2.5 Disgrifiad Sain (Wedi ei recordio ymlaen llaw) WCAG 2.2.
- Rhaglen Darllen Sgrin JAWs gan ddefnyddio fideos: Ar gyfer defnyddwyr rhaglen darllen sgrin JAWs, wrth dapio allan o'r fideo olaf ar dudalen, cymerir eu ffocws i frig y dudalen. Mae hyn ond yn effeithio ar ddefnyddwyr JAWs ar nifer fach o dudalennau a bydd yn arwain at lefel isel o golli cynnwys. 3.2.1 Ar Ffocws, 2.1.1 Bysellfwrdd WCAG 2.2.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os hoffech chi roi adborth ar wefan Be part of research, anfonwch e-bost i bepartofresearch@nihr.ac.uk.
Os oes angen gwybodaeth mewn fformat gwahanol arnoch chi, megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille - anfonwch e-bost i bepartofresearch@nihr.ac.uk. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb i chi o fewn pum diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda gwefan Be Part of Research
Rydym ni’n ceisio gwella hygyrchedd gwefan Be Part of Research yn barhaus. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon, neu’n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, anfonwch e-bost atom ar bepartofresearch@nihr.ac.uk.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal wedi ymrwymo i wneud gwefannau’n hygyrch yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a’r eithriadau a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau hygyrchedd
Rydym yn gwybod bod rhai adrannau o’r wefan nad ydynt yn bodloni safonau hygyrchedd yn llawn a chaiff y rhain eu darparu gan gyflenwyr trydydd parti. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod eu hoffer yn fwy hygyrch yn y dyfodol. Mae’r rhain fel a ganlyn:
- Rydym yn defnyddio offeryn trydydd parti, Hotjar, i gasglu adborth. Mae nodweddion llawn yr offeryn ar gael i bob defnyddiwr. Gweler isod yr union wallau a achosir na ellir eu datrys oherwydd mai gwasanaeth trydydd parti yw hwn:
- Nid yw darllenwyr sgrin yn cyhoeddi’r offeryn naid, Hotjar, a ddefnyddir i gasglu adborth ar ein gwasanaeth, pan fo newid ar y sgrin, 4.1.2 Enw, Swyddogaeth, Gwerth WCAG 2.2.
- Rydym yn defnyddio offeryn trydydd parti, Mailchimp, ar gyfer cofrestru i dderbyn cylchlythyr. Rydym yn cyfyngu ar y defnydd o’r offeryn hwn ac yn darparu ffyrdd eraill o gofrestru ar gyfer y cylchlythyr. Gweler isod yr union wallau a achosir na ellir eu datrys oherwydd mai gwasanaeth trydydd parti yw hwn:
- Mae methu â hysbysu defnyddwyr darllenydd sgrin os oes camgymeriad wrth gwblhau’r ffurflen ar gyfer tanysgrifio i gylchlythyr Be Part of Research yn golygu nad yw’r defnyddiwr yn ymwybodol nad yw’r cais wedi ei gyflwyno’n llwyddiannus. 3.3.1 Adnabod Gwallau, 3.3.3 Awgrymu Gwallau WCAG 2.2.
- Mae fideos ar draws y wefan yn cael eu cynnal gan wefan trydydd parti, youtube.com. Ar y rhan fwyaf o’r cynnwys, rydym yn darparu ffyrdd eraill o ymgysylltu. Gweler isod yr union wall a achosir na ellir ei ddatrys oherwydd mai gwasanaeth trydydd parti yw hwn:
- Dangosir y fideos yn y rhestrau elfennau ac fe’u darllenir fel cynnwys gan ddarllenwyr sgrin. Fodd bynnag, nid yw’r rheolaethau ar gyfer y chwaraewr fideo yn arddangos yn y rhestr elfennau ar gyfer maes y ffurflen. Mae’r rheolaethau hyn yn guddiedig ar y fideo nes bod defnyddiwr yn mynd i’r fideo, gan eu bod yn rhan o nodweddion y chwaraewr YouTube. Felly, ni allwn wella hygyrchedd rheolaethau fideos. 4.1.2 Enw, Swyddogaeth, Gwerth WCAG 2.2.
Baich anghymesur
Mae’r wybodaeth astudio ar Be Part of Research, sy’n dod o ISRCTN, ClinicalTrials.gov a System Rheoli Portffolio Ganolog y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, yn cael ei darparu gan drydydd partïon. Nid oes gennym reolaeth dros ba mor hygyrch yw hi, gan gynnwys cymhlethdod yr iaith. Rydym yn cymryd camau i wella pa mor hawdd yw deall yr iaith o’r ffynonellau hyn pan mae’n cael ei harddangos ar ein gwasanaeth.
Rydym hefyd yn gweithio gyda’r gymuned ymchwil i’w hannog i ddarparu gwybodaeth astudio mewn iaith llai cymhleth.
Ar ein tudalen astudiaeth, mae botwm argraffu/lawrlwytho sy'n cysylltu â PDF nad yw'n cynnwys ei fath o ffeil a gwybodaeth am faint. Gall yr holl ddefnyddwyr ddefnyddio'r nodwedd hon o hyd, ond nid yw'n gwbl hygyrch. Rydym yn ymchwilio i atebion i wella hyn nad ydynt yn effeithio'n negyddol ar berfformiad y gwasanaeth.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 2 Medi 2019. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 27 Medi 2024.
Profwyd y wefan a'r gofrestrfa Be Part of Research ddiwethaf gan The Shaw Trust ym mis Awst 2024.