Cylchlythyr Bod yn Rhan o Ymchwil
Haf 2023
Mae’n haf yn swyddogol. Mae’r haul yn gwenu, mae gwyliau haf wedi’u trefnu, ac i’r rhai ohonoch â phlant hŷn – mae’r tymor arholiadau ofnadwy wedi dod i ben.
Gall arholiadau terfynol achosi llawer o straen a gorbryder, heb sôn am y syniad o adael cartref am y tro cyntaf. Yn y rhifyn hwn, rydym yn cymryd golwg ar waith ymchwil sydd â’r nod o ddeall a gwella iechyd meddwl i blant a phobl ifanc. Yn anffodus, mae mwy na hanner yr holl broblemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc yn sefydlu eu hunain erbyn 14 oed. Gall pobl ifanc yn eu harddegau gael eu heffeithio yn arbennig wrth iddynt symud drwy’r glasoed hefyd.
Rydym hefyd yn archwilio manteision cynnwys aelodau o’r teulu a gofalwyr di-dâl mewn gwaith ymchwil. Ac yn dathlu cyfraniadau mwy nag 1 filiwn o bobl a gymerodd ran mewn astudiaethau iechyd a gofal yn y DU dros y flwyddyn ddiwethaf.
You can also find this newsletter in English / Mae’r cylchlythyr hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Ymchwil yn helpu i gynorthwyo’r genhedlaeth nesaf gyda gwell iechyd meddwl

|
Cynnwys gofalwyr di-dâl mewn ymchwil
|
Cymerwch Ran
Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Treialon Clinigol (20 Mai), fe wnaethom ddathlu’r rhan hanfodol y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae o ran darganfod triniaethau a gofal newydd. A chlywsom gan Stephen, sydd wedi goroesi canser am sut brofiad yw cymryd rhan mewn astudiaeth.
Cymerodd mwy nag un filiwn o bobl ran mewn dros 5,200 o astudiaeth ar sail y DU gyfan wedi’u cefnogi gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, NHS Research Scotland, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Health and Social Care Northern Ireland. Mae hynny’n ddigon o bobl i lenwi stadiwm Wembley dros 11 o weithiau.
Ond mae ymchwil iechyd angen pob un ohonom. Dyma pam rydym wedi ei gwneud yn haws nag erioed i gymryd rhan.

|
|
|
|
|
|
|
|
News
Prawf gwaed newydd yn dod o hyd i ddau o bob tri chanser
Gallai prawf gwaed newydd sy’n gallu canfod 50 o wahanol fathau o ganser gyflymu diagnosis. Fe wnaeth y prawf ddarganfod dau o bob tri chanser mewn mwy na 5,000 o bobl a ymwelodd â’u meddyg teulu â symptomau canser posibl.
Lansio treialon ar gyfer brechlyn dim nodwydd chwyldroadol
Mae treialon wedi cychwyn ar gyfer brechlyn coronafeirws arloesol y gellir ei weithgynhyrchu fel powdr a’i roi trwy dechnoleg chwistrelliad aer, yn hytrach na nodwydd.
Nod astudiaeth newydd yw lleihau cymhlethdodau ar ôl trawsblaniad y galon trwy ‘Heartbox’
Mae treial newydd yn ymchwilio i ddull newydd o drawsblannu organau. Dyfais gludadwy yw’r Heartbox, â phwmp arbennig sy’n rhoi toddiant sy’n cynnwys ocsigen a maethynnau i’r galon yn ystod ei daith i’r ysbyty.
Astudiaeth fawr ar draws y wlad yn gwneud diagnosis o glefydau genetig prin mewn 5,500 o blant
Mae miloedd o rieni bellach yn ymwybodol o achos genetig anhwylderau datblygiadol difrifol eu plant diolch i astudiaeth arloesol. O ganlyniad, mae plant yn cael gwell triniaeth ac mae rhieni yn gallu cysylltu ag eraill sydd â phrofiadau tebyg.
Sut gall gwasanaethau gofal iechyd meddwl ddiwallu anghenion pobl o grwpiau ethnig amrywiol?
Archwiliodd adolygiad mawr o’r dystiolaeth sut y caiff anghydraddoldebau ethnig eu creu a’u cynnal ym maes gofal iechyd meddwl.
Gallai deallusrwydd artiffisial gyflymu diagnosis trawiad ar y galon
Gallai meddygon ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn fuan i wneud diagnosis o drawiadau ar y galon yn gyflymach ac yn fwy cywir. Mae’r dull wthi’n cael ei dreialu yn yr Alban i weld a yw’n helpu i leihau pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys.
Cyllid i gynorthwyo’r “genhedlaeth nesaf” o wyddonwyr i fynd i’r afael ag un o fathau mwyaf cyffredin y DU o lewcemia
Canser y gwaed yw’r pumed math mwyaf cyffredin o ganser yn y DU, ond mae ei amrywiadau niferus wedi ei wneud yn enwog o anodd ei drin yn hanesyddol.
Sut y gallai therapi realiti rhithwir ymgolli gynorthwyo adsefydliad a gwellhad yn dilyn gofal dwys
Mae astudiaeth a ariannwyd gan Gymru yn archwilio’r defnydd o therapi realiti rhithwir ymgolli i helpu cleifion sy’n dioddef trawma yn dilyn triniaeth mewn uned gofal dwys.
Datgelu genynnau craidd ar gyfer diabetes math 1
Mae ymchwilwyr yn yr Alban wedi nodi naw genyn sy’n cyflawni swyddogaeth allweddol o ran cynyddu’r risg o ddatblygu diabetes math 1.