Cylchlythyr Bod yn Rhan o Ymchwil

Gwanwyn 2023

Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd ac mae’r diwrnodau yn ymestyn o’r diwedd, gan ddod â rhyddhad i’w groesawu yn dilyn nosweithiau hir y gaeaf. Gall y tymhorau gael cymaint o effaith ar ein llesiant – ac mae’r misoedd tywyllach ac oerach yn gysylltiedig â hwyliau is, arferion bwyta gwael a bod yn llai egnïol yn gorfforol.

Yn y rhifyn hwn, rydym yn archwilio sut mae gwaith ymchwil yn gwella gwaith atal, cymorth a gofal diabetes i oedolion ac i blant. Dangoswyd bod ymyriadau ffordd o fyw yn lleihau eich siawns o fod â diabetes math 2, a gall hefyd helpu i leddfu eich diabetes.

Rydym yn cymryd golwg ar y newyddion ymchwil diweddaraf – gan gynnwys canfyddiadau a allai arbed arian i’r GIG a gwella gofal. Rydym hefyd yn amlygu’r cyfleoedd diweddaraf i gymryd rhan, gan gynnwys estyniad cyffrous i wasanaeth Bod yn Rhan o Ymchwil – sy’n caniatáu i chi gytuno i gael eich cysylltu am astudiaethau priodol yn agos at le’r ydych yn byw.

Gwella gwaith atal, cymorth a gofal diabetes gydag ymchwil

Y newyddion ymchwil diabetes diweddaraf

 

Mae gan fwy na 4.9 miliwn o bobl yn y DU diabetes, ac mae’r GIG yn gwario tua £10 biliwn y flwyddyn ar ddiabetes – 10% o’i holl gyllideb. Un o flaenoriaethau allweddol Cynllun Tymor Hir y GIG yw gwella gwaith atal a chymorth i bobl â diabetes neu sydd mewn perygl o’i gael. Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd hefyd wedi cyflwyno strategaeth ymchwil newydd i wella gofal diabetes ar gyfer y DU.

 

Mae gan tua 90% o bobl sy’n byw gyda diabetes fath 2. Mae gwaith ymchwil newydd wedi dangos bod Rhaglen Atal Diabetes y GIG wedi bod yn gysylltiedig â gostyngiad i’r risg o ddatblygu diabetes math 2 ymhlith oedolion â siwgr gwaed uchel. Torrwyd risg cleifion a atgyfeiriwyd i’r rhaglen o ddatblygu diabetes math 2 20%.

 

Dangoswyd bod ymyriadau ffordd o fyw cyfunol – gan gynnwys deiet, gweithgarwch corfforol a cholli pwysau parhaus – yn lleihau’r perygl o ddiabetes math 2 tua 50%. Mae gwaith ymchwil y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd wedi grymuso llawer o bobl i reoli eu diabetes yn fwy effeithiol, a gallwch ddarllen mwy am hyn a pha gamau eraill sydd eu hangen i gynorthwyo pobl yn ein herthygl ddiweddaraf.

 

Mae astudiaeth a ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil wedi canfod nad oes gan 77% o ymddiriedolaethau’r GIG yn Lloegr wasanaeth rheoli pwysau plant. Dyma’r tro cyntaf y casglwyd data ar wasanaethau rheoli pwysau plant a ddarperir gan ymddiriedolaethau acíwt yn Lloegr. O’r 94% o ymddiriedolaethau’r GIG a ymatebodd, dim ond 32 oedd yn darparu gwasanaeth rheoli pwysau plant.

 

Darllenwch fwy am sut rydym yn helpu i fynd i’r afael â gordewdra ymhlith plant trwy waith ymchwil ledled y DU.

 

Mae ein Gwaith Casglu Ymchwil y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd yn dod â gwaith ymchwil y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf ynghyd. Mae’n dangos sut y gallai ystyried anghenion, gwahaniaethau a dymuniadau unigolion wella gwasanaethau diabetes.

Cyfleoedd i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil diabetes

Os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch ymuno â chofrestr newydd o bobl sydd â diddordeb mewn colli pwysau, ymchwil metabolig, ac atal diabetes math 2. Bydd ymuno â’r gofrestr yn galluogi timau’r GIG i gysylltu â chi am gyfleoedd ymchwil perthnasol. Gallai’r gwaith ymchwil gynnwys cyffuriau, rhaglenni ymarfer corff, defnyddio apiau neu feddalwedd, newidiadau i ddeiet, rhaglenni addysg ac ymyriadau eraill y mae angen eu hastudio ymhellach.

Mae ymchwilwyr yng Ngogledd Iwerddon ynghyd â chydweithwyr yn Lloegr a’r Alban, yn chwilio am wirfoddolwyr i brofi rhaglen addysg o’r enw My Diabetes and Me, i helpu pobl ag anabledd dysgu neu ddeallusol i reoli eu diabetes math 2 a chynnal ffordd iachach o fyw.

Y treial ELSA drwy’r DU gyfan yw’r astudiaeth gyntaf o’i math a fydd yn nodi plant sydd mewn perygl uchel o ddiabetes math 1, gan osod y sylfeini ar gyfer datblygu rhaglen sgrinio bosibl i’r DU gyfan. Nod y treial yw recriwtio 20,000 o blant, tair i 13 oed. Bydd yn asesu perygl plant o ddiabetes math 1 trwy gyfuniad o brofion gwaed pigiad bys a gwythiennol. Ewch i wefan diabetes ELSA i gael rhagor o wybodaeth ac i ddarganfod sut i gymryd rhan.

Cymryd Rhan

Mae miloedd o bobl ledled y DU yn cymryd rhan mewn gwaith ymchwil bob blwyddyn oherwydd bod gwaith ymchwil yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnom i’n helpu i fyw bywydau hirach ac iachach. 

 

Gwyliwch y fideo byr hwn i wybod am y gwahanol ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan mewn gwaith ymchwil.

Cofrestrwch gyda Bod yn Rhan o Ymchwil

Bob tro y bydd rhywun yn derbyn triniaeth ar gyfer cyflwr iechyd, mae hyn oherwydd y bobl niferus a gymerodd ran mewn gwaith ymchwil iechyd a gofal.

 

Ond er mwyn i waith ymchwil iechyd a gofal helpu bob un ohonom, rydym ni angen i bawb gymryd rhan.

 

Gallwch gofrestru eich diddordeb nawr i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o waith ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n digwydd mewn lleoliadau yn agos atoch chi. Crëwch eich cyfrif am ddim ar wefan Bod yn Rhan o Ymchwil y DU gyfan neu drwy Ap y GIG (Lloegr yn unig). Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn cael eich cyfateb i astudiaethau ymchwil priodol wedyn ac yn derbyn gwybodaeth am sut i gymryd rhan.

 

Ymunwch ag astudiaeth enseffalomyelitis myalgig (ME) / syndrom blinder cronig (CFS) fwyaf y byd

DecodeME yw’r astudiaeth ME/CFS fwyaf erioed. Ei nod yw gweld a yw’r clefyd yn rhannol enetig ac, os felly, helpu i nodi’n fanwl yr hyn sy’n ei achosi. Dylai’r astudiaeth ein helpu i ddeall y clefyd a dod i hyd i driniaethau yn y pen draw.

Mae DecodeME angen degau o filoedd o bobl o bob cwr o’r DU i gwblhau holiadur ac, os gofynnir iddynt, i roi sampl poer fel y gall y tîm ymchwil astudio eu DNA. Darganfyddwch fwy am yr astudiaeth neu ymunwch drwy wefan yr astudiaeth.

Cwestiynau am ymchwil iechyd? Gofynnwch i’r arbenigwyr!

 

Mae cyfres o ddigwyddiadau weminar holi ac ateb yn cael eu cynnal trwy gydol fis Mawrth, lle gall aelodau o’r cyhoedd holi cwestiynau am ymchwil iechyd i arbenigwyr arweiniol. Gall pobl nad ydynt yn gallu bod yn bresennol roi eu cyfeiriad e-bost gan ddefnyddio’r ffurflen gofrestru a chael dolen at recordiad. Y digwyddiadau fydd:

Newyddion cryno

“Pecyn cymorth” camfanteisio troseddol ar blant yn dod â gwasanaethau at ei gilydd i ddiogelu plant yng Nghymru

Mae gwaith ymchwil yn helpu i ddiogelu plant rhag cam-fanteisio troseddol trwy ddatblygu adnoddau penodol i Gymru ar gyfer ymarferwyr, rhieni a phobl ifanc.

 

7 o ganfyddiadau a allai arbed arian i’r GIG a gwella gofal

Mae’r GIG yn ymdrechu i wella’n barhaus ansawdd y gofal y mae’n ei ddarparu, tra hefyd yn lleihau costau. Nid oes yn rhaid i wario llai olygu darparu gwasanaeth gwaeth. Mae Gwaith Casglu Tystiolaeth diweddaraf y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd yn nodi 7 ffordd y gall gwaith ymchwil arbed arian i’r GIG, a gwella gofal.

 

Treial clinigol arloesol yn rhoi celloedd gwaed coch a dyfwyd mewn labordy i bobl am y tro cyntaf

Mae treial clinigol sydd y cyntaf o’i fath yn y byd, wedi’i ariannu a’i gefnogi gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil wedi dechrau rhoi celloedd gwaed coch a dyfwyd mewn labordy i bobl. Os profir ei bod yn ddiogel ac yn effeithiol, gallai’r dechnoleg chwyldroi triniaethau i bobl â mathau gwaed prin, anhwylderau gwaed fel clefyd y crymangelloedd, neu bobl nad ydynt yn gallu cael trallwysiadau gwaed arferol.

 

Nid yw oedi triniaeth ar gyfer canser cyfyngedig y prostad yn gostwng cyfraddau goroesi

Mae gan ddynion â chanser cyfyngedig y prostad sy’n cael eu monitro yn weithredol yr un cyfraddau goroesi uchel ar ôl 15 mlynedd â dynion sy’n cael eu trin gyda radiotherapi neu lawdriniaeth, mae gwaith ymchwil a ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd yn ei ganfod.

 

Mae llaeth y fron yn rhoi hwb i ddatblygiad ymennydd babanod cynamserol

Po fwyaf o laeth y fron sy’n cael ei fwydo i fabanod tra byddant mewn gofal dwys newyddenedigol, po fwyaf lefel datblygiad yr ymennydd, mae astudiaeth yn awgrymu.

 

Disgwyl i ddeallusrwydd artiffisial chwyldroi trawsblaniadau organau

Disgwylir i ddull newydd o asesu ansawdd organau i’r rhoi chwyldroi’r system drawsblaniadau. Amcangyfrifir y gallai’r dechnoleg arwain at hyd at 200 yn fwy o gleifion yn derbyn trawsblaniadau aren a 100 yn fwy yn derbyn trawsblaniadau afu/iau bob blwyddyn yn y DU.

 

Cronfa Arloesi gwerth £5 miliwn i leihau defnydd adloniadol o gyffuriau

Dyfarnwyd £734,000 i bum prosiect sydd â’r nod o leihau defnydd adloniadol o gyffuriau gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, yn rhan o Gronfa Arloesi Strategaeth Gyffuriau y llywodraeth. Bydd y prosiectau yn darparu amrywiaeth o raglenni seiliedig ar addysg, datblygiad sgiliau i bobl ifanc ac allgymorth cymunedol.

 

Bydd cyllid a chymorth ar gyfer gwaith ymchwil i glefydau prin yn ysgogi cynnydd i gleifion

Bydd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd yn lansio sawl menter newydd ac yn adolygu ei gynnydd yn rhan o ail Gynllun Gweithredu ar Glefydau Prin i Loegr y llywodraeth, sydd newydd gael ei gyhoeddi.