Mae darparu ymchwil glinigol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn bwysicach nag erioed.
Rydym wedi gweld yr hyn y gallwn ei gyflawni drwy ymchwil mewn ymateb i COVID-19 - nodi profion a thriniaethau newydd, hybu dealltwriaeth o'r feirws a datblygu'r brechlynnau.
Ni fyddai'r cynnydd hwn yn bosibl heb i gleifion ac aelodau o'r cyhoedd gymryd rhan mewn ymchwil; ac wrth i ni symud ymlaen ac edrych ar heriau gofal iechyd yn y dyfodol, mae’n rhaid i ni fanteisio ar bob cyfle i sicrhau bod ymchwil glinigol yn amrywiol ac yn agored i bob un ohonom.
Felly, yn y rhifyn hwn rydym yn edrych ar wahanol ffyrdd o gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a sut mae plant a phobl ifanc yn cyfrannu at ymchwil.
Gyda Mis Alzheimer's y Byd yn digwydd yn ystod mis Medi, rydym yn rhannu rhai o'r ymchwil a'r mentrau dementia diweddaraf sy'n digwydd ledled y DU, ac yn esbonio mwy am yr ymgyrch #PassItOn gan Join Dementia Research.
Diolch eto am eich cefnogaeth a'ch diddordeb anhygoel mewn ymchwil - gyda'n gilydd rydym yn gwneud gwahaniaeth.
Yr Athro David Crossman, Prif Wyddonydd (Iechyd), Llywodraeth Yr Alban
Cymryd rhan

Sut gallwn i helpu gydag ymchwil?
Ydych chi'n ansicr sut y gallech chi helpu gydag ymchwil? Mewn unrhyw brosiect ymchwil, y cam cyntaf yw meddwl am gwestiynau y gallai ymchwil helpu i’w hateb. Mae'n ddefnyddiol bod â safbwyntiau gwahanol ar gwestiynau ymchwil, gan y gallai claf neu ofalwr feddwl am bethau gwahanol i ymchwilydd.
Er enghraifft, gwnaeth gofalwr sy'n gweithio gydag ymchwilwyr ar brosiect am gymorth ar gyfer gofalwyr nodi grŵp o ofalwyr 'cudd' nad oedd yr ymchwilwyr yn gwybod amdanynt. Roedd yr ymchwilwyr ond wedi bod yn meddwl am ofalwyr pobl ag anabledd neu bobl â phroblemau iechyd meddwl. Roedd y gofalwr dan sylw wedi gofalu am ei gŵr pan oedd ganddo glefyd y galon. Nid oedd hi wedi nodi ei hun yn ofalwr ar y pryd. Gwnaeth rhannu ei phrofiad arwain at brosiect newydd i edrych ar wasanaethau cymorth ar gyfer y grŵp hwn.
Rhoi syniadau newydd i ymchwilwyr ar gyfer ymchwil:
- Awgrymu pwnc yr ydych chi’n credu bod angen ymchwilio iddo
- Chwilio am ffyrdd o gymryd rhan i helpu ymchwil ledled y DU ar ein cronfa ddata, Pobl mewn Ymchwil
- Cymryd rhan mewn arolygon i nodi:
- Pa ymchwil y dylem ni ei wneud ar glefyd cynhenid y galon
- Yr hyn y mae ar bobl sy'n byw yn Nwyrain Llundain ei angen i'w helpu i wella o'r pandemig
- Edrychwch ar James Lind Alliance - sefydliad sy'n dod â phobl at ei gilydd i drafod cwestiynau ymchwil. Rhowch eich syniadau yn yr arolygon eraill y maen nhw’n eu cynnal ar hyn o bryd
Ffyrdd gwahanol o gymryd rhan mewn ymchwil iechyd
Nid yw ymchwil iechyd yn ymwneud â chymryd meddyginiaethau a threulio amser yn yr ysbyty yn unig. Yn wir, gellir gwneud llawer o fathau o ymchwil o gysur eich cartref eich hun. Mae llawer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan gan gynnwys: holiaduron, therapïau siarad a phrofion corfforol. Dysgwch fwy am y gwahanol fathau o ymchwil a sut y gallwch chi hefyd wneud gwahaniaeth.
Dysgu
Deall yr ymchwil y tu ôl i'r pandemig
Gallwch nawr fynd i fyd ymchwil iechyd gyda chymorth cwrs dysgu ar-lein am ddim yr NIHR, sy'n dechrau eto ar 4 Hydref 2021. Mae'r cwrs byr yn edrych ar sut y gall y DU gynnal ymchwil critigol yn y GIG, gan ddarganfod brechlynnau newydd a thriniaethau profedig mewn ymateb i COVID-19.
Darllen mwy a chofrestru i gymryd rhan

Darllen
.jpg)
Pobl ifanc yn cael effaith fawr
Gall cleifion a'r cyhoedd roi mewnwelediad newydd ar ymchwil, yn seiliedig ar eu profiadau eu hunain. Ond weithiau mae'n heriol cynnwys cyfranwyr cyhoeddus, yn enwedig pan fyddant yn ifanc.
Gweithiodd ymchwilwyr yn yr astudiaeth MAGIC gyda grŵp o bobl ifanc i brofi dull o roi diagnosis o rwymedd mewn plant. Rhoddodd y bobl ifanc gyngor i'r ymchwilwyr i sicrhau bod eu hastudiaeth yn addas i blant.
Recriwtiwyd 1000 o blant gan astudiaeth yng Ngogledd Iwerddon i weld a oedd ganddynt wrthgyrff i COVID-19. Helpodd yr astudiaeth ni i ddeall symptomau COVID-19 mewn plant yn well.
Bydd merch 10 oed o Gymru yn cael clust newydd wedi'i hadeiladu mewn labordy diolch i brosiect ymchwil arloesol gwerth £2.5 miliwn yn Abertawe. Mae'r dechnoleg bresennol sef grafftio croen i ailadeiladu clust yn golygu gadael creithiau ar y benglog a'r rhan o'r fron, lle byddai cartilag yn cael ei gymryd ohoni. Drwy ddatblygu'r glust yn y labordy, ni chaiff Radiyah unrhyw greithiau.
Mis Medi yw Mis Alzheimers y Byd
Un o'r straeon newyddion ymchwil mwyaf am ddementia yn ddiweddar, oedd cymeradwyaeth yr Unol Daleithiau i'r cyffur aducanumab, sy'n wrthgorff â’r bwriad o dargedu amyloid, protein sy'n cronni yn ymennydd pobl â chlefyd Alzheimer yn gynnar. Er mai dim ond yng ngogledd America y mae'r cyffur wedi'i drwyddedu, gallai nodi dechrau dyfodol hollol newydd ar gyfer trin gwahanol fathau o ddementia. Mae'r datblygiad hwn yn rhannol diolch i wirfoddolwyr Join Dementia Research, gan gynnwys Helen o'r Alban, a gymerodd ran yn y treialon clinigol yn y DU.
Datblygodd tîm ymchwil o Brifysgol Caerwysg, a ariannwyd gan yr NIHR, therapi adferiad gwybyddol sydd wedi'i gynllunio i roi strategaethau i bobl i'w helpu i weithredu'n well mewn bywyd bob dydd, megis cofio enwau ac ymdopi a’u siopa.
Gan ei fod wedi rhoi gwell hyder i gyfranogwyr ac wedi cael ei argymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), mae Cymdeithas Alzheimer yn galw am ei gynnig ym mhob un o’r pedair gwlad.
Mae'r Llyfrgell Apiau Dementia yn cynnwys amrywiaeth o apiau a gymeradwyir yn glinigol i helpu'r rhai sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr, gan gynnwys yr Ap InspiredD Reminiscence sy'n llyfr cof digidol sy'n storio ffotograffau, synau a fideos personol ac yn eich galluogi i ychwanegu nodiadau llais neu rai wedi’u teipio, synau a chlipiau ffilm. Fe'i cynlluniwyd ar y cyd gan bobl sy'n byw gyda dementia.
Mae Join Dementia Research yn cynnal ymgyrch #PassItOn drwy gydol mis Medi, i ehangu ymwybyddiaeth am y gwasanaeth ac i annog pobl i gofrestru. Gwyliwch ein fideo i ddysgu mwy.
Agweddau’r cyhoedd at ymchwil iechyd yn dilyn y pandemig
Canfu arolwg diweddar fod y mwyafrif llethol o oedolion y DU yn credu bod y DU wedi chwarae rhan bwysig iawn yn y pandemig coronafeirws. Mynegodd 87% falchder yn yr ymchwilwyr a staff y GIG a nododd driniaethau ac a ddatblygodd frechlynnau ar gyfer COVID-19.
Fodd bynnag, nid oedd canfyddiadau pobl o sut y cyflawnwyd y llwyddiant hwnnw yn adlewyrchu maint yr ymdrech a roddwyd i mewn gan gyfranogwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Er bod pob un ysbyty yn y DU wedi bod yn rhan o ymchwil coronafeirws, dim ond 12% o'r ymatebwyr oedd yn ymwybodol o hyn.
Gwyliwch
Mae'r fideo 2 funud hwn yn esbonio Pum ffordd y mae ymchwil wedi ymladd COVID-19
Gwrandewch
Mae podlediad diweddaraf Research This yn rhannu meysydd blaenoriaeth newydd ar gyfer ymchwil NIHR ym maes iechyd y cyhoedd; gamblo, iechyd cymunedau gwledig, byw'n dda gyda dementia, iechyd plant sy’n derbyn gofal a chyfleoedd o ganlyniad i ddatganoli yn Llundain.
Mae'r podlediad hwn yn sôn am sut mae technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd mewn treialon ymchwil fel synwyryddion a thechnoleg y gellir ei gwisgo. Mae Dr Camille Carol yn sôn am ba mor eang y defnyddir y dyfeisiau hyn a pha swyddogaeth y maen nhw’n ei chwarae wrth gasglu gwybodaeth ar gyfer canfod clefydau'n gynnar, addasu therapi ar gyfer yr unigolyn a monitro datblygiad clefydau.