Croeso i gylchlythyr Cofrestrfa Ymchwil Brechlyn COVID-19 y GIG Chwefror 2022. Yn y rhifyn hwn, byddwn yn trafod y newyddion diweddaraf am gymeradwyaeth hirddisgwyliedig y DU i Novavax, nifer o astudiaethau brechlyn atgyfnerthu sy'n chwilio am wirfoddolwyr ledled y DU a mwy.
Yr Athro Andrew Ustianowski, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol Rhaglen Ymchwil Brechlyn COVID NIHR y DU

Rwy'n gobeithio y bydd rhifyn y mis hwn o'r cylchlythyr yn eich cael yn dda ar ôl diwedd gwlyb a gwyntog i fis Chwefror. Wrth i ni nesáu at ddwy flynedd ers dechrau pandemig COVID-19, rydym yn dod â'r newyddion cadarnhaol am frechlyn cymeradwy arall yn y DU.
Ddechrau'r mis, roeddem yn falch o rannu'r newyddion bod yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi awdurdodi brechlyn COVID-19 Novavax. Os ydych wedi cadw golwg ar newyddion astudiaethau brechlyn ers 2020, mae'n siŵr y byddwch yn ymwybodol bod hyn yn newyddion i'w groesawu'n fawr ar ôl llawer o oedi. Rydym yn gobeithio y bydd cyfranogwyr a thimau ymchwil a fu’n rhan o'r astudiaeth (a recriwtiodd dros 15,000 o gyfranogwyr mewn 33 o safleoedd), yn falch o weld y cyhoeddiad ac y gallwch ymfalchïo mewn cyfrannu at gymeradwyo'r brechlyn, yn y DU a ledled y byd.
Yn dilyn canlyniadau nifer o astudiaethau ar ddechrau'r flwyddyn, fis hwn rydym yn rhoi newyddion am nifer o astudiaethau brechlynnau atgyfnerthu sy'n recriwtio dros yr wythnosau nesaf. Mae'r rhain yn cynnwys astudiaethau sy'n ymchwilio i un o frechlynnau amrywiolyn Omicron penodol cyntaf y byd (gan Moderna), a nifer o is-astudiaethau COV-Boost.
Mae rhagor o wybodaeth am yr astudiaethau sy'n chwilio am wirfoddolwyr ar hyn o bryd i'w gweld isod ac yn y tabl yn nhroednodyn y cylchlythyr hwn. Gallwch hefyd ymuno â chylchlythyr Be Part of Research i ddarganfod cyfleoedd ymchwil ehangach.
Yn dilyn diweddariadau diweddar, mae tudalen Newyddion Brechlyn Diweddaraf Be Part of Research yn parhau i ddangos yr wybodaeth ddiweddaraf i gyfranogwyr am y treialon hyn o ran atgyfnerthu a theithio.
Mae canllawiau diweddaraf y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio ar gyfer y rhai sydd mewn mwy o berygl o gael eu heintio'n ddifrifol (75 oed neu hŷn, neu ag imiwnedd is) a chyngor wedi'i ddiweddaru ar gyfer plant 5 i 11 oed, yn dangos pwysigrwydd ymchwil barhaus i'r ffordd orau o ddefnyddio brechlynnau COVID-19 i ddiogelu gwahanol rannau o'r boblogaeth ar gyfer tonnau posibl yn y dyfodol.
Unwaith eto, hoffwn ddiolch i bob un ohonoch am eich diddordeb a'ch ymgysylltiad â’r cylchlythyrau hyn wrth i ni barhau i gefnogi astudiaethau brechlynnau atgyfnerthu ledled y DU a deall yn well sut rydym yn byw â COVID-19 wrth symud ymlaen.
Brechlyn COVID-19 Novavax wedi’i awdurdodi gan MHRA

Ddechrau mis Chwefror, fe wnaeth Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) awdurdodi brechlyn COVID-19 Novavax i'w ddefnyddio yn y DU.
Mae hyn yn dilyn treialon clinigol trwyadl a gefnogwyd gan lawer ohonoch a wirfoddolodd i fod yn rhan o'r astudiaeth hon a dadansoddiad trylwyr o'r data gan arbenigwyr yn yr MHRA, sydd wedi dod i'r casgliad bod y brechlyn wedi bodloni ei safonau diogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd llym. Nid yw'r Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio wedi cyhoeddi eto a fydd y brechlyn yn cael ei ddefnyddio yn rhaglenni brechu'r DU, na sut.
Canfu'r astudiaeth Novavax a gefnogir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, dan arweiniad ymchwilwyr yn St George's, Prifysgol Llundain, fod y brechlyn COVID-19 89.7% yn effeithiol o ran atal COVID-19, cyn i'r amrywiolyn Omicron ddod i'r amlwg.
Mae'r brechlyn Novavax hefyd wedi'i awdurdodi gan yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd a Sefydliad Iechyd y Byd, sy'n golygu y bydd statws brechu cyfranogwyr yn yr astudiaeth yn cael ei gydnabod y tu allan i'r DU. Tan y cyfnod hwn, roedd nifer o wledydd wedi gwrthod cydnabod statws brechu pobl a oedd wedi cymryd rhan yn y treial hwn, gan arwain at anawsterau wrth deithio'n rhyngwladol.
Mae'n parhau i fod yn bwysig i gyfranogwyr y brechlyn prawf sy'n bwriadu teithio edrych i weld pa frechlynnau sydd wedi'u cymeradwyo ar hyn o bryd yn y wlad yr ydych yn teithio iddi.
3,000 o wirfoddolwyr i dderbyn brechlyn atgyfnerthu COVID-19 Moderna Omicron

Mae un o frechlynnau penodol i amrywiolyn Omicron COVID-19 cyntaf y byd wedi lansio mewn sawl safle ledled y DU. Bydd yr astudiaeth arloesol, dan arweiniad tîm sydd wedi'i leoli yn St George's, Prifysgol Llundain, yn rhoi brechlyn atgyfnerthu cyntaf neu ail frechlyn atgyfnerthu i bron i 3,000 o gyfranogwyr.
Bydd hanner y gwirfoddolwyr yn derbyn brechlyn amrywiolyn Omicron Moderna a'r hanner arall yn cael eu brechu gyda'r brechlyn COVID-19 moderna safonol a ddefnyddir yn gyffredin (Spikevax).
Caiff yr astudiaeth ei chynnal mewn hyd at 29 o safleoedd ymchwil ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, bydd rhai safleoedd yn dechrau recriwtio ym mis Mawrth, a bydd yn para hyd at 13 mis.
I gael gwybod a ydych yn gymwys i ymuno â'r astudiaeth, ewch i wefan yr astudiaeth heddiw.
Astudiaethau Dosau Ffracsiynol COV-Boost a brechlynnau atgyfnerthu Moderna yn galw am wirfoddolwyr

Yn 2021, darparodd yr astudiaeth COV-Boost ganlyniadau pwysig i helpu i lywio rhaglen frechu atgyfnerthu'r DU. Nawr mae timau ymchwil COV-Boost ledled y DU yn gobeithio cysylltu â darpar wirfoddolwyr sydd â diddordeb ar gyfer dwy is-astudiaeth, er mwyn deall y camau nesaf o frechu yn erbyn coronafeirws.
Dosau Ffracsiynol i Oedolion Ifanc COV-BOOST
Bydd dros 900 o bobl ifanc o bob rhan o'r DU yn cael brechlyn atgyfnerthu COVID-19 ar ddos is nag mewn oedolion, drwy'r is-astudiaeth i ddosau ffracsiynol i Oedolion Ifanc COV-BOOST.
Mae gan oedolion ifanc ymateb imiwnedd cryfach i frechlynnau nag oedolion hŷn. Mae canlyniadau astudiaethau brechlyn COVID-19 wedi awgrymu y gallai dosau is o frechlynnau Pfizer neu Moderna COVID-19 roi ymateb imiwnedd cystal i oedolion ifanc â dosau uwch. Gall dosau is hefyd fod yn gysylltiedig â llai o sgil-effeithiau neu gyfraddau is o ddigwyddiadau andwyol sydd eisoes yn brin.
COV-Boost – Pedwerydd Brechlyn Atgyfnerthu Amrywiolyn Omicron
Nid yw'n hysbys ar hyn o bryd a fyddai darparu rhagor o ddosau o frechlynnau COVID-19 presennol (fel y brechlyn Pfizer) yn cynhyrchu gwell ymatebion imiwnedd yn erbyn yr amrywiolyn Omicron, neu amrywiolion eraill, neu a fyddai rhoi brechlynnau wedi'u diweddaru a gynlluniwyd i helpu'r corff i gydnabod protein pigyn amrywiolyn Omicron (fel brechlyn amrywiolyn Omicron Moderna) yn darparu amddiffyniad gwell.
Mae'r astudiaeth hon yn ceisio pennu proffil sgil-effeithiau, diogelwch ac ymateb imiwnedd rhoi gwahanol bedwerydd dos brechlyn atgyfnerthu COVID-19 o naill ai brechlyn Omicron Pfizer neu Moderna.
Os ydych yn 30 oed neu'n hŷn, wedi cael 3 dos o frechlyn COVID-19 ac nad ydych wedi profi'n bositif am COVID-19, efallai y byddwch yn gymwys i gymryd rhan yn yr astudiaeth cymharu brechlynnau atgyfnerthu COVID-19 hon.
Ewch i wefan COV-Boost i gael gwybod mwy am y ddwy astudiaeth, ble maen nhw’n digwydd ac os ydych yn gymwys i ymuno. Bydd gwirfoddolwyr yn cael eu had-dalu am eu hamser, costau teithio a'r anghyfleustra iddyn nhw.
Ydych chi wedi profi'n bositif am COVID-19 yn ddiweddar? Gallech ymuno â'r 10,000 o wirfoddolwyr astudiaeth PANORAMIC sy'n helpu i nodi triniaethau gwrthfeirysol effeithiol newydd

Mae meddyginiaethau newydd sydd â'r nod o helpu'r rhai a heintiwyd yn ddiweddar gyda COVID 19 yn gyflymach, heb fod angen triniaeth ysbyty, ar gael i'r cyhoedd drwy astudiaeth PANORAMIC. Mae dros 10,000 o bobl o bob rhan o'r DU eisoes wedi ymuno â'r astudiaeth, yr astudiaeth wrthfeirysol COVID-19 fwyaf yn y byd.
I fod yn gymwys, mae angen i bobl fod dros 50 oed neu gallant fod yn 18-50 oed os oes ganddynt gyflwr iechyd (fel canser, asthma, cyflwr imiwnedd neu ordewdra). Mae angen i bobl fod o fewn pum diwrnod cyntaf y symptomau ac wedi cadarnhau eu haint.
Nod treial PANORAMIC yw dod o hyd i driniaethau gwrthfeirysol sy'n lleihau derbyniadau i'r ysbyty ac adferiad cyflym i bobl â COVID-19, sydd gartref ac yng nghamau cynnar yr haint. Y driniaeth wrthfeirysol gyntaf i'w hymchwilio drwy'r treial yw molnupiravir (enw brand Lagevrio), sydd eisoes wedi'i drwyddedu, ond mae angen mwy o ddata ynglŷn â’r ffordd orau o'i defnyddio ym mhoblogaeth y DU sydd wedi'i brechu'n bennaf.
Gall cyfranogwyr cymwys ymuno ar-lein neu dros y ffôn o gysur eich cartref eich hun. Byddwn yn anfon yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn syth atoch gartref. Byddwch hefyd yn derbyn dyddiadur symptomau, ac efallai y byddwch yn cael triniaeth i'w chymryd.
Astudiaethau Brechlynnau COVID-19 sy’n Recriwtio ar Hyn o Bryd
Mae'r tabl isod yn dangos yr astudiaethau brechlyn COVID-19 sy'n dal i chwilio am gyfranogwyr, dolen i wefan yr astudiaeth sy'n cynnwys rhagor o wybodaeth, lleoliadau safleoedd sy'n cymryd rhan a throsolwg byr o'r astudiaeth. Gallwch hefyd weld rhestr lawn o dreialon ar dudalen Astudiaethau Brechu Cymeradwy gwefan Be Part of Research.
Brechlyn Amrywiolyn Moderna Omicron - mRNA-1273-P305
Mae treial clinigol mRNA-1273-P305 yn gwerthuso diogelwch ac ymateb imiwnedd y brechlyn atgyfnerthu ymchwiliadol mRNA-1273. 529 o'i gymharu â dos atgyfnerthu o frechlyn COVID-19 Moderna, Spikevax, sef y brechlyn a gafodd awdurdod marchnata amodol yn yr UE.
Mae cymryd rhan yn y treial hwn yn para hyd at 13 mis ac yn cynnwys galwadau ffôn, ymweliadau telefeddygaeth, a hyd at chwe ymweliad â safle’r treial. Bydd cyfranogwyr yn cael un dos naill ai o’r brechlyn atgyfnerthu ymchwiliadol, mRNA-1273.529, neu'r brechlyn sydd eisoes wedi'i awdurdodi, Spikevax.
Rhaid i gyfranogwyr cymwys:
- Fod yn 16 oed neu'n hŷn
- Bod ag iechyd da
- Wedi derbyn dau neu dri dos o'r brechlyn COVID-19 o'r blaen
- Rhaid i gyfranogwyr sydd wedi cael trydydd dos o'r blaen fod wedi cael brechlyn mRNA (Moderna, Pfizer/BioNTech) fel trydydd dos
- Gall cyfranogwyr sydd wedi derbyn dau ddos o'r blaen fod wedi derbyn brechlynnau mRNA (Moderna, Pfizer/BioNTech) neu'r rhai nad ydynt yn mRNA (Rhydychen/AstraZeneca, Janssen)
- Heb dderbyn brechlyn COVID-19 o fewn y 3 mis diwethaf
- Heb brofi'n bositif am COVID-19 ers 08 Tachwedd 2021 nac wedi cael cysylltiad sylweddol â rhywun sydd wedi profi'n bositif o fewn y 14 diwrnod diwethaf
Ysbyty San Siôr, Llundain, Ymchwil Glinigol Arfordir Fylde - Canolfan Feddygol Layton, Ysbyty Derriford, Plymouth, Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Brenhinol Dyfnaint a Chaerwysg, Canolfan Recriwtio Cleifion NIHR: Caerwysg, Ymarfer Wansford a Kingscliffe, Ysbyty Cyffredinol y Gogledd (Sheffield),Ysbyty Cyffredinol Halton, Runcorn, Ysbyty Coleg y Brenin, Llundain, Ysbyty Brenhinol Bradford, Royal Free Hospital, Llundain, Ysbyty Chelsea a San Steffan, Llundain, Ysbyty Brenhinol Victoria, Newcastle, Ysbyty Brenhinol Swydd Gaerloyw, Ysbyty Castle Hill, Swydd Efrog, Ysbyty Southmead, Bryste, Canolfan Ymchwil Portsmouth Ysbyty Brenhinol Bournemouth,Ysbyty Brenhinol Aberdeen,Ysbyty Brenhinol Cernyw, Yr Ysbyty Brenhinol Unedig, Caerfaddon, Ysbyty Cyffredinol Caerlŷr, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, De Cymru, Canolfan Frechu Covid-19 Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain, Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Barts, Llundain, Ysbyty Prifysgol James Cook, Middlesbrough, Ysbyty Great Western, Swindon, Ysbytai Prifysgol Bryste a Chyfleuster Ymchwil Clinigol Weston, Ysbyty Brenhinol Salford
Is-Astudiaeth Pedwerydd Brechlyn Atgyfnerthu Amrywiolyn Omicron COV-Boost
Mae'r astudiaeth hon yn ceisio pennu proffil sgil-effeithiau, diogelwch ac ymateb imiwnedd o roi pedwerydd dos atgyfnerthu brechlyn COVID-19 o BNT162b2 (Pfizer) ac mRNA-1273.529 (Moderna) i bobl sydd wedi derbyn 3 dos o frechlyn COVID-19 yn flaenorol. Bydd yn cofrestru dynion a menywod 30 oed neu hŷn sydd wedi derbyn 3 dos o frechlyn COVID-19 (gyda'r trydydd dos naill ai'n BNT162b2 neu mRNA-1273) ac o leiaf 3 mis (84 diwrnod) ar ôl eu trydydd dos.
Ydw i'n addas i gymryd rhan?
Mae oedolion sy'n 30 oed neu'n hŷn sydd wedi cael 3 dos o frechlyn COVID-19 (gyda'r trydydd dos yn mRNA1273 neu BNT162b2) ac o leiaf 3 mis (84 diwrnod) ers eu trydydd dos yn gymwys i gymryd rhan, ar yr amod nad ydynt wedi profi'n bositif am COVID-19 o'r blaen.
Ysbytai Prifysgol Sussex Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG, Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Caerlŷr, Ysbyty Prifysgol y Frenhines Elizabeth GIG Glasgow Fwyaf a Clyde, Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Guy's a St Thomas, Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Prifysgol Gogledd Orllewin Llundain (Ysbyty Parc Northwick), Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Addysgu Leeds, Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Ysbyty Athrofaol Southampton, Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Portsmouth, Iechyd Cyhoeddus Cymru (Ysbyty Maelor Wrecsam), Ysbytai Prifysgol Caergrawnt
COVAXAER01 - Brechlyn COVID-19 yn cael ei ddarparu drwy anadlu (Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Imperial College, Llundain)
Ni ddylai cyfranogwyr fod wedi profi'n bositif i COVID-19 o'r blaen i gymryd rhan mewn astudiaeth ddynol gyntaf sy’n edrych ar ddarparu'r brechlyn, AZD1222, a ddatblygwyd gan Brifysgol Rhydychen. Mae tîm yr astudiaeth yn chwilio am wirfoddolwyr, 30-55 oed, sydd wedi derbyn cwrs llawn o frechlynnau COVID-19.
Byddwch yn derbyn un dos o'r brechlyn astudiaeth (drwy anadlu aerosol) a bydd yn ofynnol i chi fynd i'r ysbyty ar gyfer asesiadau diogelwch yr astudiaeth am 12 mis.
Bydd samplau amrywiol yn cael eu cymryd a'u hasesu i weld a yw'r brechlyn wedi cael effaith ar eich system imiwnedd i atal haint COVID-19.
Cewch hyd at £1010 am eich amser a'r anghyfleustra.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: flu-rsv-study@imperial.ac.uk
COV-BOOST – Is-astudiaeth Dosio Ffracsiynol Oedolion Ifanc
Bydd cyfranogwyr yn cael eu rhannu ar hap i dderbyn naill ai un dos o frechlyn Pfizer (30mcg), traean o’r dos arferol o Pfizer (10mcg, yr un dos ag sy’n cael ei ddefnyddio mewn gwledydd eraill ar gyfer plant 5 – 11 oed), hanner dos o frechlyn Moderna (50mcg, y dos sy’n cael ei ddefnyddio gan y GIG fel pigiad atgyfnerthu 3ydd dos) neu chwarter dos o frechlyn Moderna (25mcg). Yna, byddant yn cwblhau dyddiadur o’u symptomau dros y 7 diwrnod nesaf, ac unrhyw ddigwyddiadau niweidiol eraill sy’n codi hyd at 3 mis ar ôl cael y brechlyn. Ceir sawl ymweliad dilynol i gael profion gwaed i wirio ar gyfer marcwyr imiwnedd, ac i wirio iechyd y cyfranogwyr.
Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Athrofaol Caerlŷr, Ysbytai Coleg Prifysgol Llundain, Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Guys a St Thomas, Ysbyty Athrofaol St George, Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Prifysgol Gogledd-orllewin Llundain, Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Addysgu Leeds, Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Ysbyty Athrofaol Southampton, Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Portsmouth, Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Ysbytai Athrofaol Dorset, Iechyd Cyhoeddus Cymru – Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbytai Athrofaol Caergrawnt, Ysbyty Athrofaol Queen Elizabeth y GIG Glasgow Fwyaf a Clyde, Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Stockport, Ymddiriedolaeth GIG Frenhinol Dyfnaint a Chaerwysg, Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Ysbytai Athrofaol Birmingham
Bydd y treial yn cymharu brechlynnau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer rhaglen frechu’r DU ar hyn o bryd, yn ogystal â brechlynnau newydd wrth iddynt gael eu cymeradwyo. Gellir ystyried menywod beichiog risg isel 18-45 mlwydd oed â chyfnod beichiogrwydd rhwng 13 a 34 wythnos i’w cofrestru ar yr astudiaeth.
Bydd cyfranogwyr yn cael eu rhannu ar hap i dderbyn dau ddos o frechlyn COVID-19 (neu un dos yn unig os bydd y cyfranogwr eisoes wedi derbyn ei dos cyntaf) mewn cyfnod amser byr (4-6 wythnos) neu gyfnod amser hir (8-12 wythnos). I rai cyfranogwyr, mae hyn yn golygu y byddant yn derbyn eu hail ddos ar ôl esgor.
Ysbyty St George, Llundain, Ysbyty Heartlands Birmingham, Ysbyty Menywod Lerpwl, Ysbyty Cyffredinol Leeds, Ysbyty Athrofaol Milton Keynes, Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol, Telford, Ysbyty’r Royal Free, Llundain, Ysbyty Brenhinol Cernyw, Truro, Ysbyty Brenhinol Preston, Ysbyty St Mary, Manceinion, Ysbyty St Michael, Bryste, Ysbyty St Helier, Llundain, Ysbyty Cyffredinol Southampton, Ysbyty’r Frenhines Charlotte a Chelsea (Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Coleg Imperial)
Treial clinigol i ymchwilio a yw trydydd dos o frechlyn COVID-19 i bobl â systemau imiwnedd wedi’u gwanhau, gan gynnwys y rhai â chanser, yn rhoi ymateb imiwnyddol cryfach na dau ddos
Rhydychen, Hammersmith - Llundain, Glasgow, Birmingham, Sheffield, Southampton, Caerlŷr, a mwy
Gall eich plentyn gymryd rhan yn yr astudiaeth hon i gadarnhau diogelwch brechlyn ymgeisiol Valneva a phrofi ei allu i ysgogi gwrthgyrff fel amddiffyniad yn erbyn y feirws.
Bryste, Barnsley. Mwy i’w cyhoeddi
Cwestiynau Cyffredinol Brechlynnau Be Part of Research
Edrychwch ar dudalen cwestiynau cyffredin brechlynnau COVID-19 ar ein gwefan Be Part of Research. Yma fe welwch nifer o Gwestiynau Cyffredin y mae aelodau'r cyhoedd yn eu gofyn i ni. Gallwch hefyd ymweld â thudalen Newyddion Diweddaraf Ymchwil Brechlynnau Be Part of Research i weld cwestiynau cyffredin mwy diweddar ynghylch dosau atgyfnerthu, teithio a Phàs COVID, ar gyfer cyfranogwyr yr astudiaeth.
Cofrestrfa brechlyn COVID-19 y GIG mewn ffigyrau
Mae’r data diweddaraf i’w gweld ar y dangosfwrdd cyhoeddus gan gynnwys dadansoddiad daearyddol o’r rheini sydd wedi cofrestru.
Tynnu’ch caniatâd yn ôl
Os ydych yn newid eich meddwl ac na hoffech chi i ymchwilwyr nac NHS Digital gysylltu â chi ynghylch astudiaethau brechu cymeradwy yn erbyn y coronafeirws, gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar wefan y Gwasanaeth unrhyw bryd.